A76257:878
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. In drydydd, ympryd dinasol, yr hwn y mae y swyddog in ei ofod o ran gwell cynhaliaeth i'r wlad; megis i arfer pyscod in gystal a chig, fell y gallo fod mwy llawnder o'r ddau.
3. Yn drydydd, ympryd dinasol, yr hwn y mae y swyddog yn ei ofod o ran gwell cynhaliaeth i'r wlad; megis i arfer pyscod yn gystal a chig, fel y gallo fod mwy llawnder o'r ddau.
4. In bedwerydd, ympryd rhyfeddol, megis ympryd Moeses ac Elijah, yr arwyddion, ac un Christ, y sylwedd, dross ddeugain nhiwrnod: Hwn sydd in hytrach iw ryfeddu nac i'w wneuthur drachefn.
4. Yn bedwerydd, ympryd rhyfeddol, megis ympryd Moeses ac Elias, yr arwyddion, ac un Christ, y sylwedd, dros ddeugain nhiwrnod: Hwn sydd yn hytrach iw ryfeddu nac i'w wneuthur drachefn.
5. In bummed, ympryd beunyddiol, pan fyddo dŷn in ofalus i arfer o ymborthi ar greaduriad Duw in gymmedrol, megis na byddo hynny in ei wneuthur in drymmach, eithr in fwy hyfforddus i wasanaethu Duw, ac i wneuthur y pethau a berthyn iw alwedigaeth. Hwn in enwedig a ddylai Weinidogion y gair a Barnwyr ei gadw in ddyfal. 1 Tim. 3.3. Dihar. 31.4, 5.
5. Yn bumed, ympryd beunyddiol, pan fyddo dŷn yn ofalus i arfer o ymborthi ar greaduriad Duw yn gymmedrol, megis na byddo hynny yn ei wneuthur yn drymmach, eithr yn fwy hyfforddus i wasanaethu Duw, ac i wneuthur y pethau a berthyn iw alwedigaeth. Hwn yn enwedig a ddylai Weinidogion y gair a Barnwyr ei gadw yn ddyfal.