A76257:982
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am y trydydd Diben o Swpper yr Arglwydd.
3. I fod in wystl ac in arwydd-ammod o'r Cymmundeb ffrwythlawn cyfagos yr hwn sydd rhwng Cristianogion â Christ. Phiol y fendith yr hon a fendigwn, onid Cymmun gwaed Christ ydyw? y bara yr ydym in ei dory, onid cymmun corph Christ yw? 1 Cor. 10.16. hynny yw arwydd a gwystl ffrwythlawnaf o'n Cymmun ni â Christ. Yr undeb hon a elwir aros gyda ni, cyssylltiad ar Arglwydd, trigfa in ein calonnau: Joan. 14.16. 1 Cor. 6.17. Ephes. 3.17. Ac a osodir allan in yr Scrythur Sanctaidd mewn lláwer o gyffelybiaethau. In gyntaf, trwy gyffelybiaethau o'r winwydden a'r canghennau: in ail, o'r pen a'r corph: in drydydd, o'r sail a'r adeilad: in bedwerydd, o'r dorth a wneir o amryw ronynnau o ŷd: in bummed, o'r undeb priodasawl rhwng gŵr a'i wraig, a'r cyfryw. Joan. 15.12. 1 Cor. 10.17. Col. 1.18. Ephes. 5.31, 32. Ac y mae in dridyblyg rhwng Christ â Christianogion. Y gyntaf sydd anianol, rhwng ein dynawl anian ni, a dwywawl anian Christ ym mherson y gair: yr ail sydd Ddirgeledig, rhwng ein personau ni in absennol oddiwrth yr Arglwydd, a pherson Christ Duw a Dŷn, in un corph dirgeledig. Y trydydd sydd nefol, rhwng ein personau ni in bresennol gyd â'r Arglwydd, a pherson Christ mewn corph gogoneddus; y try o gysylltiadau hyn sydd ynglŷn y nail in y llall. O ni buasai i'n hanian ni in gyntaf gael ei hvno megis in un-sylweddol ag Anian Duw in yr ail person; ni allasem ni sith gael ein uno â Christ mewn corph dirgeledig. Ac oni byddwn ni in y bywyd hwn (er ein bod in absennol) gwedi ein uno at Grist trwy undeb Dirgeledig, ni chawn ni sith gymmun o ogoniant gyd ag ef in ei gyfannead nefol. Y Cymmun dirgeledig (a grybwyllir yma in bennaf) a weithredir rhwng Christ a ninny, trwy yspryd Christ in ein hymgyffred ni: A thrwy ein ffydd ni