In ddiweddaf, oddiwrth y Cymmun rhag-ddywededig rhwng Christ â Christianogion, y mae Cymmun arall in llifeirio rhwng Christianogion in eu plith eu hunein. Yr hwn hefyd a ddanghosir in fywiol wrth gyfranniad Sacrament Swpper yr Arglwydd, gan fod yr holl Eglwys, er eu bod in lawyer, in cymmuno oll o'r un bara in y weithred sanctaidd honno. Nyni in lawyer ydym un bara, ac un corph; canys yr ydym ni oll in gyfrannogion or un bara. 1 Cor. 10.17. megis ac nad yw 'r bara yr hwn a fwytawn ni in y Sacrament, and un, er ei wneuthur o lawyer o ronynnau, felly yr holl ffyddloniaid, er eu bod in lawyer, etto nid ydynt ônd un corph dirgeledig, tan yr un pen yr hwn yw Christ. Fe a weddiodd ein Jachawdwr bum gwaith in y weddi yr hon a wnaeth in ôl ei Swpper diweddaf, ar fod o'i ddiscyblion ef in un: Joan. 17.2, 11, 21, 22, 23, 26. i ddyscu i ni ar unwaith fell y mae yr undeb hon in rhyngu bodd iddo ef. Y mae 'r undeb rhwng y ffyddloniaid mor chang, nas gall pellder lleoedd ei gwahanu, mor gadarn, na eill marwolaeth berry iddi ymollwn; mor barhaus, na ddichon amser moi gwisco hi allan; mor ffrwythlawn ac y maga gariad twym in rhwng rhai ni welsant wyncbau eu ⟨p. 286⟩gilydd erioed. A'r cysylldiad hwn ar eneidiau a gyfenwir Cymmuny Saint, yr hyn y mae Christ in ei weithredu trwy chwech o foddion hynodol. In gyntaf, wrth eu llywodraethu hwynt oll ag un yspryd sanctaidd. In ail. trwy eu cynnyscaeddu hwynt oll a'r un ffydd. Ephes. 4, 4, 5. In drydydd trwy dywallt ei gariad ei hun iw holl galonnau hwynt, Rhuf. 5.5. In bedwerydd, trwy eu hadgenedlu hwynt ag un Bedydd. Tit. 3.5. In bummed, trwy eu porthi hwynt â'r un ymborth ysprydol. 1 Cor. 11.33. In chweched, trwy fod in un pen bywiol ir un corph o'r Eglwys, yr hon a gymmododd ef â Duw ynghorph ei gnawd ef, Col. 1.18, 22. O hyn y digwyddodd fod y lliaws o'r rhai a gredasant in yr Eglwys o'r cynfyd, o un gallon, ac un enaid, mewn gwirionedd, search a thrugaredd, Act. 4.32. A hyn a ddylai ddyscu i Gristianogion garu y nail y llall, gan welled eu bod oll in aelodau o'r un sanctaidd, a'r dirgeledig gorph, o'r hwn y mae Christ in Ben. Ac am hynny fe ddylai fod rhyngddynt oll gyd-ddioddef Cristianogawl, a chyd-teimlad, i orfoleddu y nail yngorfoledd y llall, i resynu y nail tros y lall, i gyd-ddwyn y nail â gwendid y llall, ac in gyfnewidiol y nail i borthi angen y llall.
Yn ddiweddaf, oddiwrth y Cymmun rhag-ddywededig rhwng Crist â Christianogion, y mae Cymmun arall yn llifeirio rhwng Christianogion yn eu plith eu hunein. Yr hwn hefyd a ddanghosir yn fywiol wrth gyfranniad Sacrament Swpper yr Arglwydd, gan fod yr holl Eglwys, er eu bod yn llawer, yn cymmuno oll o'r vn bara yn y weithred sanctaidd honno. Nyni yn llawer ydym vn bara, ac vn corph; canys yr ydym ni oll yn gyfrannogion or vn bara. 1 Cor. 10.17. megis ac nad yw 'r bara yr hwn a fwytawn ni yn y Sacrament, ond vn, er ei wneuthur o lawer o ronynnau, felly yr holl ffyddloniaid, er eu bod yn llawer, etto nid ydynt ônd vn corph dirgeledig, tan yr vn pen yr hwn yw Crist. Fe a weddiodd ein Iachawdwr bum gwaith yn y weddi yr hon a wnaeth yn ôl ei Swpper diweddaf, ar fod o'i ddiscyblion ef yn vn: Joan. 17.2, 11, 21, 22, 23, 26. i ddyscu i ni ar vnwaith fel y mae yr vndeb hon yn rhyngu bodd iddo ef. Y mae 'r vndeb rhwng y ffyddloniaid mor chang, nas gall pellder lleoedd ei gwahanu, mor gadarn, na eill marwolaeth beri iddi ymollwn; mor barhaus, na ddichon amser moi gwisco hi allan; mor ffrwythlawn ac y maga gariad twym yn rhwng rhai ni welsant wyncbau eu ⟨p. 286⟩gilydd erioed. A'r cysylldiad hwn ar eneidiau a gyfenwir Cymmuny Sainct, yr hyn y mae Crist yn ei weithredu trwy chwech o foddion hynodol. Yn gyntaf, wrth eu llywodraethu hwynt oll ag vn yspryd sanctaidd. Yn ail. trwy eu cynnyscaeddu hwynt oll a'r vn ffydd. Ephes. 4, 4, 5. Yn drydydd trwy dywallt ei gariad ei hun iw holl galonnau hwynt, Rhuf. 5.5. Yn bedwerydd, trwy eu hadgenedlu hwynt ag vn Bedydd. Tit. 3.5. Yn bumed, trwy eu porthi hwynt â'r vn ymborth ysprydol. 1 Cor. 11.33. Yn chweched, trwy fod yn vn pen bywiol ir vn corph o'r Eglwys, yr hon a gymmododd ef â Duw ynghorph ei gnawd ef, Col. 1.18, 22. O hyn y digwyddodd fod y lliaws o'r rhai a gredasant yn yr Eglwys o'r cynfyd, o vn galon, ac vn enaid, mewn gwirionedd, serch a thrugaredd, Act. 4.32. A hyn a ddylai ddyscu i Gristianogion garu y naill y llall, gan weled eu bod oll yn aelodau o'r vn sanctaidd, a'r dirgeledig gorph, o'r hwn y mae Crist yn Ben. Ac am hynny fe ddylai fod rhyngddynt oll gyd-ddioddef Cristianogawl, a chyd-teimlad, i orfoleddu y naill yngorfoledd y llall, i resynu y naill tros y lall, i gyd-ddwyn y naill â gwendid y llall, ac yn gyfnewidiol y naill i borthi angen y llall.