A77831:189
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Efang. Pa beth a ddywedodd y Gwr bonheddig hwnnw wrthych chwi?
Cris. Efe a ofynnodd i mi, i bale yr oeddwn in mined, ac fo 'm holodd i, a oedd Teulu gennif? Ac mi a fynegais iddo, fy mod i in mined tua Mynydd Zion, a bod genni Deulu: Eithr ebe fi, yr wyf mor llwythog gan y Baich sydd ar fy nghefn, fall nas gallaf ymhyfrydu ynthynt megis cynt.
Cris. Efe a ofynnodd i mi, i ba le yr oeddwn yn myned, ac fo 'm holodd i, a oedd Teulu gennif? Ac mi a fynegais iddo, fy mod i yn myned tua Mynydd Sion, a bod genni Deulu: Eithr ebe fi, yr wyf mor llwythog gan y Baich sydd ar fy nghefn, fal nas gallaf ymhyfrydu ynthynt megis cynt.
Efang. A pha beth a ddywedodd yntef ynghylch hynny?
Cris. Fo 'm cynghorodd, i ymorchestu i ymddilwytho in ebrwydd; a mine a'i hattebais ef, may esmwythdra oedd dymuniad fy nghalon i: Ac am hynny ebe fi, yr wi 'n mined tua 'r Porth accw, i gael gwybod pale y cafi ymwared. Yntef a ddywedodd wrthyf, y dangosai efe i mi well a nessach ford, ac â lay o beryglon ynthi, nag y sydd in y ford, Sir, y gosodasoch chwi fi arni: Ar ford hon ebb efe a'ch dwg chwi in union i Dŷ Gwr bonheddig, y feidr ddilwytho pobl, o'r faith lwythau a hyn. Felly mi a'i credais ef, ac a droais ir ford hon, oddiar y