A77831:202
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In awr nid oedd Cristion in edrych ⟨p. 53⟩am ddim and marwolaeth; ac efe a ddechrevodd waeddi in alarus, gan felldithio yr amser, in yr hwn y cyfarfu efe â meistr Bydol Ddoethyn, gan alw ei hunan fill o weithiau in ffol, am iddo wrando ar ei gyngor ef. A chywilyddio in ddirfawr y wnaeth efe hefyd, wrth feddwl i resymmau cnawdol y Gwr ymma ei orchfygu ef in y faith fodd, fall y parent iddo †ŵyro oddiar y ford uniawn. Ac ar ôl hynny fo a nessaodd drachefn at Efangylwr, gan lefaru wrtho ir pwrpas hyn.
Yn awr nid oedd Cristion yn edrych ⟨p. 53⟩am ddim ond marwolaeth; ac efe a ddechreuodd waeddi yn alarus, gan felldithio yr amser, yn yr hwn y cyfarfu efe â meistr Bydol Ddoethyn, gan alw ei hunan fil o weithiau yn ffol, am iddo wrando ar ei gyngor ef. A chywilyddio yn ddirfawr y wnaeth efe hefyd, wrth feddwl i resymmau cnawdol y Gwr ymma ei orchfygu ef yn y fath fodd, fal y parent iddo †ŵyro oddiar y ffordd vniawn. Ac ar ôl hynny fo a nessaodd drachefn at Efangylwr, gan lefaru wrtho ir pwrpas hyn.
- †Troi.
Crif. Sir, Beth a dybygwch chwi? A oes obaith? A allafi ddychwelyd in awr, a mined i fynu at y porth bychan? Oni wrthodir fi am fy nhrossedd, ac onis gyrrir fi in ól oddi yno gyda chywilydd? Mae in ddrwg gennif i mi wrando ar gyngor y Gwr hwn; eithr a ellir maddeu fy mhechodau i?
Crif. Syr, Beth a dybygwch chwi? A oes obaith? A allafi ddychwelyd yn awr, a myned i fynu at y porth bychan? Oni wrthodir fi am fy nhrossedd, ac onis gyrrir fi yn ól oddi yno gyda chywilydd? Mae yn ddrwg gennif i mi wrando ar gyngor y Gwr hwn; eithr a ellir maddeu fy mhechodau i?