A77831:547
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
ac hwy a wnaethant felly; ac weal yr oedd y Lle oddifewn in dywyll ac in fwglyd jawn: ac weal hwy a dybygent hefyd, eu bód in clywed megis swn rhyw Dân, a lleisiau rhai in dioddef poenau dirfawr, ac eu bod in arogli arogl brwmstan. Ina ebe Cristion, pa beth yw hyn? A'r Bugeiliaid ⟨p. 240⟩a attebasant, Traws-lwybr i uffern yw hwn: dyma'r ford y mae Rhagrithwyr in mined i mewn yno; in enwedig, y sawl sy'n gwerthu eu genedigaeth fraint gydag Esau; y rhai a werthant ei Meistr gydâ Suddas; y rhai sy'n cablu'r Efengyl gydag Alexander; y rhai sy'n dywedyd celwydd ac in rhagrithio gydag Ananias, a Sapphira ei Wraig ef. Ina ebe Gobeithiol wrth y Bugeiliaid, yr wyfi 'n deal fod gan y rhain, je bob un o honynt liw o Bererindod, megis y maegennym nine yr awron; onid oedd y peth felly?
ac hwy a wnaethant felly; ac wele yr oedd y Lle oddifewn yn dywyll ac yn fwglyd iawn: ac wele hwy a dybygent hefyd, eu bód yn clywed megis swn rhyw Dân, a lleisiau rhai yn dioddef poenau dirfawr, ac eu bod yn arogli arogl brwmstan. Yna ebe Cristion, pa beth yw hyn? A'r Bugeiliaid ⟨p. 240⟩a attebasant, Traws-lwybr i uffern yw hwn: dyma'r ffordd y mae Rhagrithwyr yn myned i mewn yno; yn enwedig, y sawl sy'n gwerthu eu genedigaeth fraint gydag Esau; y rhai a werthant ei Meistr gydâ Suddas; y rhai sy'n cablu'r Efengyl gydag Alexander; y rhai sy'n dywedyd celwydd ac yn rhagrithio gydag Ananias, a Saphira ei Wraig ef. Yna ebe Gobeithiol wrth y Bugeiliaid, yr wyfi 'n deall fod gan y rhain, ie bob un o honynt liw o Bererindod, megis y maegennym ninne yr awron; onid oedd y peth felly?
Bug. Oedd in ddiau, ac hwy a barhasant felly hefyd in hîr o amser.
Bug. Oedd yn ddiau, ac hwy a barhasant felly hefyd yn hîr o amser.