A77831:558
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Anwyb. Foneddigion, yr ydych 'n ddieithriaid im fi, nid adwaen i mo honoch; byddwch fodlon i ddilyn Crefydd eich Gwlad chwi; a mine a ddilynaf Grefydd fy ngwlâd inn. Yr wyfi'n gobeithio y bid pob peth o'r gorau. Ac am y porth y soniasoch am dano, fe ŵyr yr holl fyd, fod honno ym-mhell o 'n gwlad ni: nid wyfi chwaith in tybied, fod neb in ein holl barthau ni, in gwybod y ford tuag yno; ac nis gwaeth pu'n ai bod in ei gwybod hi ai peidio, gan fod gennym (fall y gwelwch) †Wttra lâs hyfryd, in dyfod o'n Gwlâd ni, i uniawn-gyrchu 'r ford yma. Pan y gwelodd Cristion fod y gwr in doeth in ei olwg ei hun, efe a ddywedodd wrth Obeithiol in ddistaw; gwell yw'r gobaith am ffôl nag am dano ⟨p. 244⟩ef. Ac fo a ddywedodd ym-mhellach, 2y ffôl pan rodio ar y ford, sydd â'i Gallon in pallu, ac y mae 'n dywedyd 3wrth bawb ei fod in ffôl. Pa beth a wnawn ni? A siaradwn ag ef ym-mhellach? Neu ynteu mined oi flaen ef in bresennol, i adel iddo fyfyrio ar yr hyn a glywodd eisus, ac yna ei aros ef drachefn; i edrych a allwn bob in ychydig wneuthur dim daioni iddo ef. 'Rwi 'n tybied ebe Gobeithiol, nad yw 'n dda dywedyd y cwbl ar unwaith wrtho ef, gadewch i ni ei adel e y pride hyn os mynnwch; a siaradwn ag ef in y man, fall y bo'n abl derbyn ein haddysc a'n cynghorion. Felly hwy a aethant ym-mlaen eill dau, ac Anwybodaeth a ddaeth ar eu hòl. In awr gwedi iddynt ei ragflaenu ef ychydig, hwy a ddaethant i *Hewlan dywyll jawn, lle y cyfarfuant â Gwr wedi ei rwymo gan saith Cythrael, â saith 5o raffau cedyrn; ac yr oeddent in ei gario ef in ôl, i'r Drws a welsent ar 6ochr y Bryn. Cristion in awr a'i Gyfaill Gobeithiol a ddechrevasant †arswydo a chrynu 'n ‖