A77831:545
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Bug. Fe orchmynnodd Arglwydd ill hwn i ni, nac anghofiem leteugarwch; ac am hynny chwi a ellwch gael rhan o'r pethau da y sydd yma. Heb. 13. 1, 2. Mi a weIais hefyd in fy mreuddwyd, may pan wybu'r Bugeiliaid, may *fforddolion oeddynt; hwythau hefyd a ofynnasant Gwestiwnau iddynt (a'r Pererinion a roddasant yr un-rhyw attebion iddynt hwy, ac a roesant i eraill) megis, gwyr o ba wl•d ydych? A pha fodd y daethoch i'r ford? A thrwy ba foddion y darfu i chwi barhau ynthi fall ⟨p. 236⟩hyn? Canys nid oes and ychydig o'r rhai sy'n dechrau dyfod tuag yma, in dangos eu hwynebau ar y mynyddoedd hyn: And pan clybu y Bugeiliaid eu hattebion hwynt, fe 'i bodlonwyd hwy 'n fawr; ac hwy a edrychasant in gariadus arnynt, ac a ddywedasant wrthynt, Croesaw i'r Mynyddoedd hyf•yd. Ar †Bugeiliaid (meddaf) y rhai a elwid, Gwybodaeth, Profiad, Gwiliadwrus, Purdeb, a'u cymmerasant erbyn eu dwylo, ac a'u harwainasant hwy iw pebyllau; ac a osodasant gar eu bron yr hyn oedd barod ganthynt. Ac hwy a ddywedasant ym-mhellach wrthynt; ninny a ewyllysiem i chwi aros gyda ni ychydig o amser, mal y galloch fod in gydnabyddns á ninny; ac hefyd, fall y caech ychydig o esmwythyd a diddanwch, trwy fod in gyfrannogion o'r pethau daionus, y sydd iw cael in yr hyfryd fynyddoedd ymma. A'r Pererinion a ddywedasant wrthynt, eu bod nhwy 'n fodlon i aros; ac felly hwy a aethant iw gorphwysfa y noson honno, canys yr oedd hi 'n hwyr jawn. A'r borau drannoeth mi a glywn y Bugeiliaid in galw ar Gristion a Gobeithiol, i ddyfod gyda nhwy i rodio ar y Mynyddoedd; felly hwy a aethant allan gydag hwynt, ac a rodiasant ennyd, ⟨p. 237⟩ac a ganfuant fod y Tîr in dra ffrwythlon ac hyfryd ar bob tu. Ina ebr Bugeiliaid wrth ei gilidd, a gawn •i ddangos rhyw ryfeddodau i'r Pere•inion hyn; ac wedi iddynt gyttuno gwneuthur felly, hwy a'u *