A81315:100
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Pan fyddo naturiol swydd-geneddfau ⟨p. 13⟩yr enaid self y rheswm a'r deal, yr ewyllys, ar nwydau, ac aelodau y corph hefyd wedi eu sancteiddio, a'u glanhau, a'u hadgyweirio drwy râs hid oni bônt in deal. in ewyllysio, ac in deisyfu yr hyn sy dda.
Theol. Pan fyddo naturiol swydd-geneddfau ⟨p. 13⟩yr enaid sef y rheswm a'r deall, yr ewyllys, ar nwydau, ac aelodau y corph hefyd wedi eu sancteiddio, a'u glanhau, a'u hadgyweirio drwy râs hyd oni bônt yn deall. yn ewyllysio, ac yn deisyfu yr hyn sy dda.
Phila. Oni ddichon din ewyllysio, a deisyfu yr hyn sy dda cyn ei ail-geni?
Phila. Oni ddichon dyn ewyllysio, a deisyfu yr hyn sy dda cyn ei ail-geni?
Theol. Na ddichon, mwy nac y dichon din marw ddeisyfu daionus bethau y bid hwn. Canys nid yw ewyllys din in rhŷdd i gydsynnied ar da, hid oni ryddhaer ef drwy râs. A pha din bynnag nis ail-ganed etto, ni ddichon hwnnw amgen na phechu; a hynny in ddigymmell. Oblegid y mae ewyllys din in rhŷdd oddiwrth gymmell, (am ei fod oi waith ei hun in pechu) eithr nid yw efe in rhŷdd oddiwrth gaethiwed i bechod.
Theol. Na ddichon, mwy nac y dichon dyn marw ddeisyfu daionus bethau y byd hwn. Canys nid yw ewyllys dyn yn rhŷdd i gydsynnied ar da, hyd oni ryddhaer ef drwy râs. A pha ddyn bynnag nis ail-ganed etto, ni ddichon hwnnw amgen na phechu; a hynny yn ddigymmell. Oblegid y mae ewyllys dyn yn rhŷdd oddiwrth gymmell, (am ei fod oi waith ei hun yn pechu) eithr nid yw efe yn rhŷdd oddiwrth gaethiwed i bechod.