A81315:1060
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pregeth am Edifeirwch.
Edifeirwch yw tristwch, a galar gwstadol in y gallon, a'r gydwybod oddifewn am bechod, ynghyd a ffydd, a gwellhad oddi mewn, ac oddi allan. Oddi mewn (meddaf) drwy newidio meddyliau, a nwydau'r gallon; ac oddiallan drwy newidio y geiriau, a'r gweithredoedd o ddrŵg i dda. Dymma'r edifeirwch in ddiammeu oedd in Nafydd; yr hwn pan g•ryddwyd ef in gyfrwysgall gan y Prophwyd Nathan, drwy ddangos iddo ei bechodau o flaen ei lygaid, Ni safodd efe in ystyfnig ar ei wâd, gan ymoryscwyddo a Duw, ac nid escusododd hwynt chwaith in ddirgel drwy eu coluro, and efe a lefodd in chwerwder ei gallon, Myfi a bechais; Ac ar hynny a wnaeth 51 Psalm; Psalm in ddiau in lawn gala• a thrymder, in yr hwn y mae 'r Prophwyd in cwynfan am ei bechodau ⟨p. 481⟩ac in ymofidio tros ei feiau, ac in gweddio am gallon newydd, ac yspryd newydd, meddyliau newyddion, nwydau newyddion, a bwriadau newyddion i wellhau ei fuchedd; felly in Nafydd ninny a welwn fod tristwch, a gofid gwastadol (megis ym mhob man y dengys llyfr y Psalrnau, yr hwn ai gesyd ef in amlwg megis in ei lun ei hun) je a dwygiad mawr ar bechodau oddi mewn, ac oddi allan.