Pregeth am Edifeirwch.
pp. 480–4837 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pregeth am Edifeirwch.
Edifeirwch yw tristwch, a galar gwstadol in y gallon, a'r gydwybod oddifewn am bechod, ynghyd a ffydd, a gwellhad oddi mewn, ac oddi allan. Oddi mewn (meddaf) drwy newidio meddyliau, a nwydau'r gallon; ac oddiallan drwy newidio y geiriau, a'r gweithredoedd o ddrŵg i dda. Dymma'r edifeirwch in ddiammeu oedd in Nafydd; yr hwn pan g•ryddwyd ef in gyfrwysgall gan y Prophwyd Nathan, drwy ddangos iddo ei bechodau o flaen ei lygaid, Ni safodd efe in ystyfnig ar ei wâd, gan ymoryscwyddo a Duw, ac nid escusododd hwynt chwaith in ddirgel drwy eu coluro, and efe a lefodd in chwerwder ei gallon, Myfi a bechais; Ac ar hynny a wnaeth 51 Psalm; Psalm in ddiau in lawn gala• a thrymder, in yr hwn y mae 'r Prophwyd in cwynfan am ei bechodau ⟨p. 481⟩ac in ymofidio tros ei feiau, ac in gweddio am gallon newydd, ac yspryd newydd, meddyliau newyddion, nwydau newyddion, a bwriadau newyddion i wellhau ei fuchedd; felly in Nafydd ninny a welwn fod tristwch, a gofid gwastadol (megis ym mhob man y dengys llyfr y Psalrnau, yr hwn ai gesyd ef in amlwg megis in ei lun ei hun) je a d•wygiad mawr ar bechodau oddi mewn, ac oddi allan.
EDifeirwch yw tristwch, a galar gwstadol yn y galon, a'r gydwybod oddifewn am bechod, ynghyd a ffydd, a gwellhad oddi mewn, ac oddi allan. Oddi mewn (meddaf) drwy newidio meddyliau, a nwydau'r galon; ac oddiallan drwy newidio y geiriau, a'r gweithredoedd o ddrŵg i dda. Dymma'r edifeirwch yn ddiammeu oedd yn Nafydd; yr hwn pan gryddwyd ef yn gyfrwysgall gan y Prophwyd Nathan, drwy ddangos iddo ei bechodau o flaen ei lygaid, Ni safodd efe yn ystyfnig ar ei wâd, gan ymoryscwyddo a Duw, ac nid escusododd hwynt chwaith yn ddirgel drwy eu coluro, ond efe a lefodd yn chwerwder ei galon, Myfi a bechais; Ac ar hynny a wnaeth 51 Psalm; Psalm yn ddiau yn llawn gala a thrymder, yn yr hwn y mae 'r Prophwyd yn cwynfan am ei bechodau