A81315:1066
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gwelwch ymma gan hynny beth yw edifeirwch. Felly S. Petr, wedi darfod iddo drwy wendid wadu ei Arglwydd ai feistr Christ, pan ei dwysbigwyd gan ei gydwybod ei hun, ac y destrowyd gan ddiaspod ceiliog in canu, a aeth allan o lŷs Pilate, a chalon drom, gan wylo in chwerwdost, ac bight in ol hynny a gyffesodd Grist in gefnog, je hid angeu. Gwelwch gan hynny pa beth yw edifeirwch.
Gwelwch ymma gan hynny beth yw edifeirwch. Felly S. Petr, wedi darfod iddo drwy wendid wadu ei Arglwydd ai feistr Crist, pan ei dwysbigwyd gan ei gydwybod ei hun, ac y destrowyd gan ddiaspod ceiliog yn canu, a aeth allan o lŷs Pilat, a chalon drom, gan wylo yn chwerwdost, ac byth yn ol hynny a gyffesodd Grist yn gefnog, ie hyd angeu. Gwelwch gan hynny pa beth yw edifeirwch.
Y Prophwydi in yr hên destament, wrth gynghori yr Iddewon gwrthnyssig i edifarhau, a arferant fynychaf air in arwyd locau in yr Hebr-aec, trowch, neu ddychwelwch, a deuwch in ol drachefn. Wrth yr hon drawsymddwyn neu gyffelybiaeth y deellir may megis y mae in rhaid ir din a gyfeiliorno ym-mhell allan oi ford, ddychwelyd in ol eilwaith ar hid ei wrthol: felly y rhai a gyfeiliornasant o ford dduwioldeb i ford pechod, ⟨p. 482⟩rhaid iddynt ddychwelyd in ol eilwaith cyn gynted ac yr aethent ymlaen, a newidio in hollawl helynt ac ystod eu buchedd: Felly edifeirwch yw difrifol ddychweliad ar Dduw a'r holl gallon, enaid, a meddwl.
Y Prophwydi yn yr hên destament, wrth gynghori yr Iddewon gwrthnyssig i edifarhau, a arferant fynychaf air yn arwyd locau yn yr Hebre-aec, trowch, neu ddychwelwch, a deuwch yn ol drachefn. Wrth yr hon drawsymddwyn neu gyffelybiaeth y deellir mai megis y mae yn rhaid ir dyn a gyfeiliorno ym-mhell allan oi ffordd, ddychwelyd yn ol eilwaith ar hyd ei wrthol: felly y rhai a gyfeiliornasant o ffordd dduwioldeb i ffordd pechod, ⟨p. 482⟩rhaid iddynt ddychwelyd yn ol eilwaith cyn gynted ac yr aethent ymlaen, a newidio yn hollawl helynt ac ystod eu buchedd: Felly edifeirwch yw difrifol ddychweliad ar Dduw a'r holl galon, enaid, a meddwl.