A81315:135
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Asun. Rhy-bell yr ydych chwi in mined, a rhydost yw eich barn am danynt.
Asun. Rhy-bell yr ydych chwi yn myned, a rhydost yw eich barn am danynt.
Theol. Nid dim, na rhy bell, na rhydost: Oblegid ninny a welwn wrth brawf, a chydnabyddiaeth, nad ydynt in rhoddi eu brŷd, a'u search, a'u meddwl ar ddim amgen did a nôs, and ar y bŷd, y bŷd; ar eu tiroedd, a'u scrifennadau, eu cyllid, au hardreth, eu gwartheg, au defaid; a pha fodd y gallant ymgyfoethogi. Am y pethau hyn a'r cyffelyb y mae eu holl feddyliau, geiriau, a'u gweithredoedd: helynt eu buchedd, a'u ymddygiad a ddengys in amlwg may or ddaiar y maent, ac am y ddaiar, y llefarant, ac nad oes dim ynddynt and daiar, daiar. Ac am bregethau, nid gwaeth ganddynt er lleied o honynt a glywant. Ac am yr Scrythyrau, ni wnânt fawr gyfrif o honynt. Nid ydynt in e• darllain, nac in bwrw y talant dreulio'r amser wrthynt. Nid oes dim mor wrthwynebus ganddynt. Dewisent bob rhyw oferwaith, in hyttrach na gwrando, neu ddarllain gair duw, neu ymgommio o'r Scrythyrau. Ac fell y dywed y Prophwyd: Dirmygus ganddynt air yr Arglwydd, nid oes ganddynt ewyllys iddo, Jer. 6.10.
Theol. Nid dim, na rhy bell, na rhydost: Oblegid nyni a welwn wrth brawf, a chydnabyddiaeth, nad ydynt yn rhoddi eu brŷd, a'u serch, a'u meddwl ar ddim amgen ddydd a nôs, ond ar y bŷd, y bŷd; ar eu tiroedd, a'u scrifennadau, eu cyllid, au hardreth, eu gwartheg, au defaid; a pha fodd y gallant ymgyfoethogi. Am y pethau hyn a'r cyffelyb y mae eu holl feddyliau, geiriau, a'u gweithredoedd: helynt eu buchedd, a'u ymddygiad a ddengys yn amlwg mai or ddaiar y maent, ac am y ddaiar, y llefarant, ac nad oes dim ynddynt ond daiar, daiar. Ac am bregethau, nid gwaeth ganddynt er lleied o honynt a glywant. Ac am yr Scrythyrau, ni wnânt fawr gyfrif o honynt. Nid ydynt yn e• darllain, nac yn bwrw y talant dreulio'r amser wrthynt. Nid oes dim mor wrthwynebus ganddynt. Dewisent bob rhyw oferwaith, yn hyttrach na gwrando, neu ddarllain gair duw, neu ymgommio o'r Scrythyrau. Ac fel y dywed y Prophwyd: Dirmygus ganddynt air yr Arglwydd, nid oes ganddynt ewyllys iddo,