A81315:169
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Asune. Cyfaddef yr wyf, am ray segur heb nemmawr ganddynt iw wneuthur, nad oes ormod niwed er gwrando o honynt ymbell bregeth; ac weithiau darllain yr Scrythyrau: Eithr am eraill, ni chawn mor cnnyd: Y mae ⟨p. 30⟩in rhaid i ni ddilyn ein gorchwyl: ni allwn ni mor byw wrth yr Scrythyrau. Nid dynion diddysc sydd i drîn y rheini. Rhy ddyfnion ydynt i ni, ni bid i ni a wnelom a hwynt. I bregethwyr, ac i eglwyswyr y maent in perthyn.
Asune. Cyfaddef yr wyf, am rai segur heb nemmawr ganddynt iw wneuthur, nad oes ormod niwed er gwrando o honynt ymbell bregeth; ac weithiau darllain yr Scrythyrau: Eithr am eraill, ni chawn mor cnnyd: Y mae ⟨p. 30⟩yn rhaid i ni ddilyn ein gorchwyl: ni allwn ni mor byw wrth yr Scrythyrau. Nid dynion diddysc sydd i drîn y rheini. Rhy ddyfnion ydynt i ni, ni bydd i ni a wnelom a hwynt. I bregethwyr, ac i eglwyswyr y maent yn perthyn.
Theol. Christ a ddywaid:1 Y mae fy nefaid i in gwrando fy llais, ac yr wyf finnau in rhoddi iddynt hwy fywyd tragwyddol. Os chwi a wrthodwch wrando llais Christ, nid ydych o'i ddefaid ef, ac ni ellwch gael bywyd tragwyddol. Y mae yr hwn sydd o dduw in gwrando geiriau duw, 2am hynny nid ydych chwi in gwrando, am nad ydych o dduw. St Paul in scrifennu at bob mâth ar ddynion, cyfoethog, a thlawd, uchel ac issel, meibion a merched, hên ac jevaingc, a'i cynghora i dderbyn gair Christ i breswylio ynddynt in helaeth ym mhôb doethineb; 3Chwi a welwch wrth hyn y mynnai yr Apostol i bob mâth ar ddynion ac sydd ganddynt eneidiau iw cadw, fod in gyd nabyddus ar Scrythyrau. Ac am hynny chwi a ellwch in gystal ddywedyd, na bid i chwi a wneloch a duw, ac a Christ, ac a bywyd tragwyddol: a dywedyd na bid i chwi a wneloch a'r Scrythyrau.