A81315:271
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Antil. Etto er hyn ei gŷd, ni wnewch i mi goelio fod putteindra in gymmaint pechod: yr ydych chwi in ei wneuthur in waeth nac ydyw.
Antil. Etto er hyn ei gŷd, ni wnewch i mi goelio fod putteindra yn gymmaint pechod: yr ydych chwi yn ei wneuthur yn waeth nac ydyw.
Theol. Digon gwir. Canys chwychwi a'ch cyffelyb ni choeliwch ddim in erbyn eich trachwantau, a'ch gwyniau cnawdol. Ac dyna'r achos yr ydych in fyddar o'r nail glûst: am hynny mi a chwanega air neu ddau allan o air Duw, at yr hyn a ddywetpwyd. Y Brenin doeth â ddywaid,1 Y neb â wnêl odineb â benyw a lygra ei enaid ei hun, ac felly sy'n evog o'i farwolaeth ei hûn, yr hyn nid yw beth yscafn. Canys os digwydda i din ymgrogi, neu ymfoddi, neu ryw fodd ⟨p. 66⟩arall fyrhau ei einioes; ein harfer ni yw dywedyd am dano, fod bâr Duw arno, fod law Dduw in drom in ei erbyn: gael o'r cythraul wall arno. Y sŵn, a'r siarad am y fâth drychineb, a gerdd tros y wlad y prŷd, a'r lle y digwyddo. Y Crwner a eilw ynghyd gŵest ar ei gorph ef; a serdyd a bassia am dano. Pa faint hyttrach y dylei yr holl fŷd ryfeddu am y peth hyn: self fod din in difetha ei enaid ei hun, ac o wir lwyrfryd ei gallon in ei anrheithio ei hun in dragwyddol. Yr yspryd glan a dywed, fod y puttein wr in gwneuthur y faith beth a hynny, self o wirfodd ei gallon in ei lad ei hûn. Ac am hynny gwae ef erioed o'i eni. Canys yna y daw y Crwner mawr or nefoedd, (yr hwn a gorona y neb a gorono) i eistedd arno ryw did, ac i roddi barn iw erbyn. Ac megis y mae y godinebwr, in pechu in erbyn ei enaid ei hun: felly y mae efe hefyd in erbyn ei gorph, fell y tystia yr Apostol. Ac in erbyn ei fraint,2 a'i gyfoeth, fell y dywed y gŵr duwiol Job: Godineb sy dân â isa oni anrheithio, ac y diwreiddio yr holl ffrwyth. Y mae efe in pechu hefyd in erbyn ei enw da, neu ei eirda a'i gymmeriad in y bid. Oblegid clais, 3