A81315:469
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Antil. Etto er hyn ei gŷd, y mae rhai in ymgadw allan or tafarnau; ac etto cynddrŵg ac eraill. Canys enllibio, a drwgabsennu eu cymmydogion a wnânt: A gwneuthur direidi, ac atcasrwydd cyn gynted ac eraill: Cenfigennus ydynt, ac in bernu arnom, ac in diystyru ein cymdeithas. ⟨p. 186⟩Etto yr ydym ni in tybied o honom ein hunain, ein bod cystadl â hwyrhau, er duwioled ydynt mewn golwg.
Antil. Etto er hyn ei gŷd, y mae rhai yn ymgadw allan or tafarnau; ac etto cynddrŵg ac eraill. Canys enllibio, a drwgabsennu eu cymmydogion a wnânt: A gwneuthur direidi, ac atcasrwydd cyn gynted ac eraill: Cenfigennus ydynt, ac yn bernu arnom, ac yn diystyru ein cymdeithas. ⟨p. 186⟩Etto yr ydym ni yn tybied o honom ein hunain, ein bod cystadl â hwyrhau, er duwioled ydynt mewn golwg.
Theol. Dywedyd yr ydych mwy nag â wyddoch neu â ellwch ei brofi in erbyn rhai gwell na chwi eich hûn. Eithr pe felly y byddei, ni wnaech and cyfiawnhau y nail bechod drwy'r llall, y lleiaf drwy'r mwyaf: ac i ba bwrpas?
Theol. Dywedyd yr ydych mwy nag â wyddoch neu â ellwch ei brofi yn erbyn rhai gwell na chwi eich hûn. Eithr pe felly y byddei, ni wnaech ond cyfiawnhau y naill bechod drwy'r llall, y lleiaf drwy'r mwyaf: ac i ba bwrpas?
Antil. A gondemniwch chwi bob cymdeithas dda?