A81315:477
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Felly Sir: Chwi â aethoch in ddigon pell in y pwngc ymma. Bellach moeswch i ni ddyfod at yr wythfed arwydd o ddamnedigaeth, yr hwn yw seguryd.
Phila. Felly Syr: Chwi â aethoch yn ddigon pell yn y pwngc ymma. Bellach moeswch i ni ddyfod at yr wythfed arwydd o ddamnedigaeth, yr hwn yw seguryd.
Theol. Am seguryd, hyn â ddywedaf ar fir: may mam pob drygioni yw, a llysfam pôb rhinwedd dda: je mamaeth pob afreol, mam putteindra yw, mam balchder, mam lledrad, mam meddwdod, mam annwybodaeth, mam meddwdod, mam annwybodaeth, mam amryfusedd, mam tlodi, mam enllib a drwgabsen, dadwrdd, a siaradach, ymchwrnu, ymddifenwi, ac ymgynhennu, â pheth nid yw? Seguryd oedd un o brif bechodau Sodom, fell y tystia y Prophwyd Ezekiel, 1gan ddywedyd. Balchder, digonoldeb bara, a gormodedd seguryd oedd ynddi, ac in ei merched. Helaeth jawn yw Solomon in yr achos hwn.2 Enaid y diog a ddeisyf ac ni chaiff ddim. A thrachefn. Y diog sydd ddoethach in ei olwg ei hun, na saith o wŷr ⟨p. 188⟩in medru rhoi rheswm synhwyrol. Hynny yw. Efe a'i tibia ei hûn in ddoethach o lawyer, am arbed ei gorph, pan yw eraill in cymmeryd poen.3 Efe â ddywed: Etto ychydig gyscu ychydig heppian, ychydig wascu dwyl• i orwedd ynghyfwng hyn y daw tlodi arnat, megis ymdeithudd, self in ddiarwybod, a'th angen fell gŵr arfog: Hynny yw in grŷf. Y diog â guddia ei law in ei fonwes, 4a blin ganddo ei hest in at ei enau. Trachefn mewn man arall y dywed yr yspryd Glân.