Theol. Dal sulw ar hyn yr ydym ym mhob profiad: o bid pennaeth in ŵr da, ac ynddo lawyer o ddoniau rhagorol, o rywiogeiddrwydd, dioddefgarwch, gostyngeiddrwydd, a chariad i wîr grefydd: er hynny os bid efe in chwannog, y bobl gyffredin a graffant ar hynny in fwyaf, ac â ddywedant, y cyfryw bendefig sydd ŵr da jawn, oni bay un peth; y mae efe in chwannog •ros b•n, in gorthrymmu tlodion, in dôst wrth eu ddeiliaid, heb gadw ⟨p. 224⟩tŷ jawn, ac in gwneuthur ychydig ddaioni in y wlâd lle yr erys. A hyn yw'r peth sy'n dyfwyno'r cwbl. Ymhellach, gedwch i farnwr, neu ynad, neu llywodraethwr fod wedi ei gynysgaeddu a champau nodedig o gallineb, synwyroldeb, cymmedrolder, haelioni, a chyfarwyddyd in y gyfraith: Etto os bid efe in ŵr digllon, in cymmeryd gwobrau: Oh mor flîn a fydd hyn gan y bobl: Canys hwy â ddywedant: Gŵr odiaeth yw mewn gwirionedd, and y mae un peth ynddo in difwyno'r cwbl: gŵr digllon a chyffrous dross ben yw: y mae mor ddigllon ar gyccynen: efe â ffromma in aruthr am ben y blewyn: efe â gyffry, ac a frocha os edrychir arno. Ac heb law hyn, aruthr mor anghyfiawn ydyw: efe â gymmer wobr in anrhesymol: odiaeth ganddo gael iro ei law: fe â wna'r peth a fynnoch am werth.
Etto ymhellach, o bid Pregethwr â chanddo rôdd ragorol, y Cyffredin bobl â ddywed am dano: Oh gŵr perffaith yw in wir, odiaeth o ddŷsc, Scrythyr-wr trwyadl, gŵr nodedig mewn pulpit: and etto er hyn ei gŷd y mae arno stremp in difwyno'r cwbl, y mae in falch anguriol: y mae efe cyn falched a Luwcifler. In siccr y mae ganddo ddoniau rhagorol: and mi â attebaf i chwi y gŵyr efe hynny in ddigon dâ.
Canys y mae ganddo ymddygiad uchel, ⟨p. 225⟩ac a edrych in sarrug, ac in scoewan ar bawb eraill: y mae in chŵydd hid yr ên o falchder: in tybied o honaw ei hûn in well nag o nêb.
Mal hyn ni â welwn pa wed y mae y gwybed meirwon in difwyno'r cwbl: a pha fodd y mae rhyw un pechod in peri gogan i ddŷn, â fyddei, oni bay hynny in rhagori.
Theol. Dal sulw ar hyn yr ydym ym mhob profiad: o bydd pennaeth yn ŵr da, ac ynddo lawer o ddoniau rhagorol, o rywiogeiddrwydd, dioddefgarwch, gostyngeiddrwydd, a chariad i wîr grefydd: er hynny os bydd efe yn chwannog, y bobl gyffredin a graffant ar hynny yn fwyaf, ac â ddywedant, y cyfryw bendefig sydd ŵr da iawn, oni bai vn peth; y mae efe yn chwannog •ros b•n, yn gorthrymmu tlodion, yn dôst wrth eu ddeiliaid, heb gadw ⟨p. 224⟩tŷ iawn, ac yn gwneuthur ychydig ddaioni yn y wlâd lle yr erys. A hyn yw'r peth sy'n dyfwyno'r cwbl. Ymhellach, gedwch i farnwr, neu ynad, neu llywodraethwr fod wedi ei gynysgaeddu a champau nodedig o gallineb, synwyroldeb, cymmedrolder, haelioni, a chyfarwyddyd yn y gyfraith: Etto os bydd efe yn ŵr digllon, yn cymmeryd gwobrau: Oh mor flîn a fydd hyn gan y bobl: Canys hwy â ddywedant: Gŵr odiaeth yw mewn gwirionedd, ond y mae vn peth ynddo yn difwyno'r cwbl: gŵr digllon a chyffrous dros ben yw: y mae mor ddigllon ar gyccynen: efe â ffromma yn aruthr am ben y blewyn: efe â gyffry, ac a frocha os edrychir arno. Ac heb law hyn, aruthr mor anghyfiawn ydyw: efe â gymmer wobr yn anrhesymol: odiaeth ganddo gael iro ei law: fe â wna'r peth a fynnoch am werth.
Etto ymhellach, o bydd Pregethwr â chanddo rôdd ragorol, y Cyffredin bobl â ddywed am dano: Oh gŵr perffaith yw yn wir, odiaeth o ddŷsc, Scrythyr-wr trwyadl, gŵr nodedig mewn pulpit: ond etto er hyn ei gŷd y mae arno stremp yn difwyno'r cwbl, y mae yn falch anguriol: y mae efe cyn falched a Luwcifler. Yn siccr y mae ganddo ddoniau rhagorol: ond mi â attebaf i chwi y gŵyr efe hynny yn ddigon dâ.
Canys y mae ganddo ymddygiad vchel, ⟨p. 225⟩ac a edrych yn sarrug, ac yn scoewan ar bawb eraill: y mae yn chŵydd hyd yr ên o falchder: yn tybied o honaw ei hûn yn well nag o nêb.
Mal hyn ni â welwn pa wedd y mae y gwybed meirwon yn difwyno'r cwbl: a pha fodd y mae rhyw vn pechod yn peri gogan i ddŷn, â fyddei, oni bai hynny yn rhagori.