A81315:526
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Dangoswch hyn, adolwyn in eglurach.
Phila. Dangoswch hyn, adolwyn yn eglurach.
Theol. Dal sulw ar hyn yr ydym ym mhob profiad: o bid pennaeth in ŵr da, ac ynddo lawyer o ddoniau rhagorol, o rywiogeiddrwydd, dioddefgarwch, gostyngeiddrwydd, a chariad i wîr grefydd: er hynny os bid efe in chwannog, y bobl gyffredin a graffant ar hynny in fwyaf, ac â ddywedant, y cyfryw bendefig sydd ŵr da jawn, oni bay un peth; y mae efe in chwannog •ros b•n, in gorthrymmu tlodion, in dôst wrth eu ddeiliaid, heb gadw ⟨p. 224⟩tŷ jawn, ac in gwneuthur ychydig ddaioni in y wlâd lle yr erys. A hyn yw'r peth sy'n dyfwyno'r cwbl. Ymhellach, gedwch i farnwr, neu ynad, neu llywodraethwr fod wedi ei gynysgaeddu a champau nodedig o gallineb, synwyroldeb, cymmedrolder, haelioni, a chyfarwyddyd in y gyfraith: Etto os bid efe in ŵr digllon, in cymmeryd gwobrau: Oh mor flîn a fydd hyn gan y bobl: Canys hwy â ddywedant: Gŵr odiaeth yw mewn gwirionedd, and y mae un peth ynddo in difwyno'r cwbl: gŵr digllon a chyffrous dross ben yw: y mae mor ddigllon ar gyccynen: efe â ffromma in aruthr am ben y blewyn: efe â gyffry, ac a frocha os edrychir arno. Ac heb law hyn, aruthr mor anghyfiawn ydyw: efe â gymmer wobr in anrhesymol: odiaeth ganddo gael iro ei law: fe â wna'r peth a fynnoch am werth. Etto ymhellach, o bid Pregethwr â chanddo rôdd ragorol, y Cyffredin bobl â ddywed am dano: Oh gŵr perffaith yw in wir, odiaeth o ddŷsc, Scrythyr-wr trwyadl, gŵr nodedig mewn pulpit: and etto er hyn ei gŷd y mae arno stremp in difwyno'r cwbl, y mae in falch anguriol: y mae efe cyn falched a Luwcifler. In siccr y mae ganddo ddoniau rhagorol: and mi â attebaf i chwi y gŵyr efe hynny in ddigon dâ. Canys y mae ganddo ymddygiad uchel, ⟨p. 225⟩ac a edrych in sarrug, ac in scoewan ar bawb eraill: y mae in chŵydd hid yr ên o falchder: in tybied o honaw ei hûn in well nag o nêb. Mal hyn ni â welwn pa wed y mae y gwybed meirwon in difwyno'r cwbl: a pha fodd y mae rhyw un pechod in peri gogan i ddŷn, â fyddei, oni bay hynny in rhagori.