Theol. Os at reswm y deuwn, ninny â allwn ryfeddu in hytrach y bid neb cadwedig, na bod ychydig in gadwedig. O•legid y mae (wedi eu gosod i gynllwyn i ni ar y ford) yr holl rwystrau, a'r lluddias a'r a ddichon bod: a'r rheini in gystal oddi mewn i ni ein hunain, ac oddi allan. Y mae genym rwysc y bid ei gyd i'n herbyn. Y mae in sefyll i'n herbyn, holl gythreuliaid uffern, a'u holl gyrn, a'u ponnau, a'u nerth anguriol, a'u ystrywiau ⟨p. 290⟩anfeidrol, eu cyfrwysdra cnoccellus, eu dichellion twyllodrus, a'u profedigaethau hoccedus.
Dymma ffrŵd grêf in rhedeg in chwyrn i'n herbyn. Ina y mae i'n herbyn, y bid presennol hwn, a chyd ag ef nifer anneirif o amryw fâth ar abwyd, hoenyunau, rhwydau, maglau, a hualau, i'n dala, i'n lleffetheirio, i'n maglu. In y nail fan y daw bud, a meluswedd, a golud, ac anrhydedd, cyfoeth, a goruchafiaeth, swyddymgais, a chybydd-dod.
Mewn man arall y daw llu Brehinol o elynion ysprydol, ac anweledig. In ddiweddaf y mae ein cnawd ein hunain, self ein naturiaeth lygredig i'n herbyn: Je ninny ein hunain in ein herbyn ein hunain.
A chin beryccled gelynion i'n jechydwriaeth ydym ni ein hunain, ac ydyw y bid, neu'r Cythraul: Canys ein deal, an rheswm, ein ewyllys, a'n gwyniau ydyn• oll i'n herbyn. Ein synwyr anianol sydd elyn i ni. Ein trachwantau, a'n nwydau afreolus ydynt in cryfhau, ac in cyfnerthu profedigaethau Satan.
Ac y maent oll wedi gwneuthur cyngrair ag ef in ein herbyn ni, ac in erbyn ein jechydwriaeth. Ymladd y maent oll tan ei faner ef, a derbyn eu cyflog ganddo. A hyn sydd galled, a thôst arnom ni, fod, ⟨p. 291⟩gan y cythraul, oddimewn i ni ein hunain, blaid i'n herbyn, a'n bod ninnau in dwyn ynom beunydd ein gelyn pennaf: yr hwn sydd barod, ar bob tro did a nôs, i'n bradychu i ddwylo Satan: je i agoryd y drŵs, ac iw ollwng ef i mewn i dory ein gyddfau: yma gan hynny y gwelwn fod llu mawr o elynion ofnadwy, ac megis lleng o Angelion in gwneuthur cynllwyn in erbyn ein eneidiau.
O•• •id ydym ni druein mewn cyflwr gresynol, y rhai mal hyn â fradychir, ac a warcheir o bob parth? Gan hynny wrth ystyried y cwbl, •nid oes i ni achos cyfiawn i ryfeddu, y bid neb in gadwedig? Oblegid pwy ni wêl, pwy ni wŷr fod milfyrddiwn in mined ben-dramwnwgl i ddestryw, nail ai drwy brofedigaethau y bid, ai'r cnawd, ai'r cythraul?
Theol. Os at reswm y deuwn, nyni â allwn ryfeddu yn hytrach y bydd neb cadwedig, na bod ychydig yn gadwedig. O•legid y mae (wedi eu gosod i gynllwyn i ni ar y ffordd) yr holl rwystrau, a'r lluddias a'r a ddichon bod: a'r rheini yn gystal oddi mewn i ni ein hunain, ac oddi allan. Y mae genym rwysc y byd ei gyd i'n herbyn. Y mae yn sefyll i'n herbyn, holl gythreuliaid vffern, a'u holl gyrn, a'u ponnau, a'u nerth anguriol, a'u ystrywiau ⟨p. 290⟩anfeidrol, eu cyfrwysdra cnoccellus, eu dichellion twyllodrus, a'u profedigaethau hoccedus.
Dymma ffrŵd grêf yn rhedeg yn chwyrn i'n herbyn. Yna y mae i'n herbyn, y byd presennol hwn, a chyd ag ef nifer anneirif o amryw fâth ar abwyd, hoenyunau, rhwydau, maglau, a hualau, i'n dala, i'n lleffetheirio, i'n maglu. Yn y naill fan y daw budd, a meluswedd, a golud, ac anrhydedd, cyfoeth, a goruchafiaeth, swyddymgais, a chybydd-dod.
Mewn man arall y daw llu Brehinol o elynion ysprydol, ac anweledig. Yn ddiweddaf y mae ein cnawd ein hunain, sef ein naturiaeth lygredig i'n herbyn: Je nyni ein hunain yn ein herbyn ein hunain.
A chyn beryccled gelynion i'n iechydwriaeth ydym ni ein hunain, ac ydyw y byd, neu'r Cythraul: Canys ein deall, an rheswm, ein ewyllys, a'n gwyniau ydyn• oll i'n herbyn. Ein synwyr anianol sydd elyn i ni. Ein trachwantau, a'n nwydau afreolus ydynt yn cryfhau, ac yn cyfnerthu profedigaethau Satan.
Ac y maent oll wedi gwneuthur cyngrair ag ef yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein iechydwriaeth. Ymladd y maent oll tan ei faner ef, a derbyn eu cyflog ganddo. A hyn sydd galed, a thôst arnom ni, fod, ⟨p. 291⟩gan y cythraul, oddimewn i ni ein hunain, blaid i'n herbyn, a'n bod ninnau yn dwyn ynom beunydd ein gelyn pennaf: yr hwn sydd barod, ar bob tro ddydd a nôs, i'n bradychu i ddwylo Satan: ie i agoryd y drŵs, ac iw ollwng ef i mewn i dorri ein gyddfau: yma gan hynny y gwelwn fod llu mawr o elynion ofnadwy, ac megis lleng o Angelion yn gwneuthur cynllwyn yn erbyn ein eneidiau.
O•• •id ydym ni druein mewn cyflwr gresynol, y rhai mal hyn â fradychir, ac a warcheir o bob parth? Gan hynny wrth ystyried y cwbl, •nid oes i ni achos cyfiawn i ryfeddu, y bydd neb yn gadwedig? Oblegid pwy ni wêl, pwy ni wŷr fod milfyrddiwn yn myned ben-dramwnwgl i ddestryw, naill ai drwy brofedigaethau y byd, ai'r cnawd, ai'r cythraul?