A81315:77
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Nid oes and rhai a goelia hynny: y rhan fwyaf a ddywedant eu bod in ymwrthod a'r Cythraul, ac a rônt ddiolch i dduw am eu bod in ddiangol oddiwrtho, na wnaeth erioed niwed idddynt.
Phila. Nid oes ond rhai a goelia hynny: y rhan fwyaf a ddywedant eu bod yn ymwrthod a'r Cythraul, ac a rônt ddiolch i dduw am eu bod yn ddiangol oddiwrtho, na wnaeth erioed niwed idddynt.
Theol. Nid y w'r geiriau dewrion hyn in gwellau dim ar y matter. Ni ffy 'r Cythraul rhag geiriau, mwy na rhag dwfr bendigaid; eithr aros y mae efe ar dafodau, a genevau dynion, je cyfanneddu y mae in heddychlon ynghalonnau, a meddyliau miloedd, y rhai a ddywedant eu bod in ym wrthod ag ef, ac in ddiangol oddiwrtho, fell y mae in amlwg gweled wrth eu gweithredoedd cyffredin, a holl ystod eu buchedd.
Theol. Nid y w'r geiriau dewrion hyn yn gwellau dim ar y matter. Ni ffy 'r Cythraul rhag geiriau, mwy na rhag dwfr bendigaid; eithr aros y mae efe ar dafodau, a geneuau dynion, ie cyfanneddu y mae yn heddychlon ynghalonnau, a meddyliau miloedd, y rhai a ddywedant eu bod yn ym wrthod ag ef, ac yn ddiangol oddiwrtho, fel y mae yn amlwg gweled wrth eu gweithredoedd cyffredin, a holl ystod eu buchedd.
Phila. In fy nhyb i, pe bai'r Cythraul in meddiannu calonnau a chydwybodau dynion, hwy a ddeallent hynny, ac a wybyddent oddiwrth y peth?
Phila. Yn fy nhyb i, pe bai'r Cythraul yn meddiannu calonnau a chydwybodau dynion, hwy a ddeallent hynny, ac a wybyddent oddiwrth y peth?