A81315:848
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Asune. Do, in wir.
Asune. Do, yn wir.
Theol. Wrth hynny chwi â droseddasoch y nawfed gorchymyn: in yr hwn y mae Duw in gofyn gennym wrth ddwyn testiolaeth, ac ar achosion eraill, adrodd y gwir in ddiragrith, o'n calonnau, heb na chelwydd, na choluro. In ddiweddaf oll, moeswch glywed, a ddeisyfiasoch eirioed in eich calon ddim ar nad oedd eiddoch eich hûn: megis tŷ eich cymmydog, neu dîr, neu wartheg, neu ddefaid, gan ddatcuddio wrth hynny anfodlonrhwydd eich calon i'r hyn a oedd eiddoch eich hûn?
Theol. Wrth hynny chwi â droseddasoch y nawfed gorchymyn: yn yr hwn y mae Duw yn gofyn gennym wrth ddwyn testiolaeth, ac ar achosion eraill, adrodd y gwir yn ddiragrith, o'n calonnau, heb na chelwydd, na choluro. Yn ddiweddaf oll, moeswch glywed, a ddeisyfiasoch eirioed yn eich calon ddim ar nad oedd eiddoch eich hûn: megis tŷ eich cymmydog, neu dîr, neu wartheg, neu ddefaid, gan ddatcuddio wrth hynny anfodlonrhwydd eich calon i'r hyn a oedd eiddoch eich hûn?
Asune. Yr wyf mor feius in hyn, ac mewn dim arall. Oblegid (Duw a faddevo i mi) mynych y deisyfiais, ac y chwenychais hyn neu'r llall, ar nad oedd in eiddof fy hun, ac felly a ddangosais fy anfodlonrhwydd.
Asune. Yr wyf mor feius yn hyn, ac mewn dim arall. Oblegid (Duw a faddeuo i mi) mynych y deisyfiais, ac y chwenychais hyn neu'r llall, ar nad oedd yn eiddof fy hun, ac felly a ddangosais fy anfodlonrhwydd.