A81315:988
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Borevol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.Boreuol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Heb law hyn in ostyngedig attolygwn i ti, o nefol Dâd, edrych i lawr or nefoedd in dy ddirfawr drugaredd ar dy eglwys gyffredin, ac ar bôb aelod o honey. Bid dda wrth Zion, ac adeilada furiau Jerusalem.
Heb law hyn yn ostyngedig attolygwn i ti, o nefol Dâd, edrych i lawr or nefoedd yn dy ddirfawr drugaredd ar dy eglwys gyffredin, ac ar bôb aelod o honi. Bydd dda wrth Sion, ac adeilada furiau Jerusalem.
Cenfydd a llygad dy dosturi ddifrod, ac anghyfannedd dra dy eglwys. Jachâ ei briwiau, a chae ei adwyau ym mhôb cenedl. Gofala am dani, megis dy braid dy hun, ymgeledda hi megis dy deulu dy hûn.
Cenfydd a llygad dy dosturi ddifrod, ac anghyfannedd dra dy eglwys. Iachâ ei briwiau, a chae ei adwyau ym mhôb cenedl. Gofala am dani, megis dy braidd dy hun, ymgeledda hi megis dy deulu dy hûn.
Coledda hi megis dy winllan dy hûn; hoffa hi megis dy briodferch dy hûn Bwriada iddi fwriadau heddwch, ac edrych arni beunydd mewn mawr dosturi. Bendithia ⟨p. 453⟩hi a'th râs; cyfarwydda hi a'th yspryd, ac ymddeffyn hi bôb amser a'th gadarn allu. Gwascara ddychymmygion, gwradwydda gynghorion a diddymma gadernid pawb a ymosodo iw herbyn.