A81315:1001
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Borevol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.Boreuol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Bendithia anrhydeddus ddirgel gyngorwyr ei fawrhydi ef, a chaniadha y fâth lwyddiant iw cyngorion, ac iw pwyll-fwriadau hwynt mewn achosion y deyrnas, fell y gallom ni fyw in llonydd, ac in heddychlawn ym mhôb duwioldeb, a gonestrwydd. Bendithia yr hôll Bennaethiaid, gweithia ynddynt hwy offal i anrhydeddu dy enw ⟨p. 456⟩di in eu galwedigaethau; gwna hwynt in ffyddlon i ti ac in ffyddlawn iw gwlâd. Cyfarwydda a'th Yspryd daionus bawb ôll â ddygant gleddyf cyfiawnder, fell y tynnant ef allan, i gospi y drygionus, ac i amddeffyn y Duwiol, ac fell y gallont a phob gofal, a chydwybod dda gyflawni dyled-swyddau eu galwedigaethau. Ychwanega nifer y gweinidogion ffyddlon, a gwir dduwiol in yr eglwys ymma. Anfon dy Efengyl ir mannau hynny lle nid ydyw, a bendithia hi lle y mae.
Bendithia anrhydeddus ddirgel gyngorwyr ei fawrhydi ef, a chaniadha y fâth lwyddiant iw cyngorion, ac iw pwyll-fwriadau hwynt mewn achosion y deyrnas, fel y gallom ni fyw yn llonydd, ac yn heddychlawn ym mhôb duwioldeb, a gonestrwydd. Bendithia yr hôll Bennaethiaid, gweithia ynddynt hwy ofal i anrhydeddu dy enw ⟨p. 456⟩di yn eu galwedigaethau; gwna hwynt yn ffyddlon i ti ac yn ffyddlawn iw gwlâd. Cyfarwydda a'th Yspryd daionus bawb ôll â ddygant gleddyf cyfiawnder, fel y tynnant ef allan, i gospi y drygionus, ac i amddeffyn y Duwiol, ac fel y gallont a phob gofal, a chydwybod dda gyflawni dyled-swyddau eu galwedigaethau. Ychwanega nifer y gweinidogion ffyddlon, a gwir dduwiol yn yr eglwys ymma. Anfon dy Efengyl ir mannau hynny lle nid ydyw, a bendithia hi lle y mae.
Cofia in dy drugaredd, O Arglwydd, yrhai ydynt tan nêb rhyw gross, neu gystudd: Cyssura hwynt, Jachâ eu briwiau, rhwym eu doluriau, derbyn eu hôll ddagrau in dy gostrel, a chyweiria eu gwelau in eu holl glefyd. Dyro y cyfryw ddiben daionus iw hôll drallodau, fell y tueddont ith ogoniant ti, ac i ffynniant eu jachawdwriaeth hwythau. In y cyfamser dyro iddynt ddioddefgarwch, a chefnogrwydd i ddwyn beth bynnag a ryngo bodd i'th drugarog law di ei osod arnynt. In ddiweddaf oll attolygwn i ti fendithio y llywodraeth-wyr, y gweinidogion, ar cyffredin.