A85479:112
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. Darfyddo i ti orchymmyn dy orchwyl i Dduw drwy weddi, bid ofalus i arfer y moddion a fo cymmwys iw ddwyn ef i ben. Canys lle 'r appwyntiodd Duw y diben, efe a appwyntiodd y moddion iddo; ac am hynny i ddŷn dybied y dichon efe cyrrhaeddyd y nail heb y llall, fyddei ryfyg mewn grâdd uchel. Eithr in hyn bid ofalus,
IV. Darfyddo i ti orchymmyn dy orchwyl i Dduw drwy weddi, bydd ofalus i arfer y moddion a fo cymmwys iw ddwyn ef i ben. Canys lle 'r appwyntiodd Duw y diben, efe a appwyntiodd y moddion iddo; ac am hynny i ddŷn dybied y dichon efe cyrrhaeddyd y naill heb y llall, fyddei ryfyg mewn grâdd uchel. Eithr yn hyn bydd ofalus,
In gyntaf fod y moddion a arferi in gyfreithlawn; na feddwl fŷth ffynnu drwy un mâth o foddion anghyfreithlon; ni bid hynny in elw in y diwedd, yr hyn a ynhiller drwy golled am dy enaid. Pa lesâd i ddŷn os ennill ⟨p. 24⟩yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun? Mar. 8. 36.
Yn gyntaf fod y moddion a arferi yn gyfreithlawn; na feddwl fŷth ffynnu drwy un mâth o foddion anghyfreithlon; ni bydd hynny yn elw yn y diwedd, yr hyn a ynhiller drwy golled am dy enaid. Pa lesâd i ddŷn os ennill ⟨p. 24⟩yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun? Mar. 8. 36.
In ail arfer y moddion megis moddion, ac na osod mo honynt in lle Duw, drwy gyfléu dy ymddiried ynddynt; canys dyna 'r ford i ddwyn adwyth ar dy holl obeithion.