A85479:125
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2 Dal sulw in ddifrifol, am ba bechod y mae dy gydwybod in fwyaf, ac in bennaf in dy geryddu di, in enwedigol in amser cystadd: Canys y prŷd hynny dy gydwybod▪ a hitheu in effro, a'th gerydda di in fwyaf dim am dy bechod anwyl.
2 Dal sulw yn ddifrifol, am ba bechod y mae dy gydwybod yn fwyaf, ac yn bennaf yn dy geryddu di, yn enwedigol yn amser cystadd: Canys y prŷd hynny dy gydwybod▪ a hitheu yn effro, a'th gerydda di yn fwyaf dim am dy bechod anwyl.
3. Dal sulw pa bechod yw 'r hwn y mae gennit y gallu lleiaf iw wrthwyncbu ef, a chan yr hwn ith orchfygir fynychaf ac in hawsaf, er bod dy gydwybod in rhoi senn i ti am dano. Ar hyn y mae gennit achos da i farnu may hwnnw yw dy bechod anwyl.
3. Dal sulw pa bechod yw 'r hwn y mae gennit y gallu lleiaf iw wrthwyncbu ef, a chan yr hwn ith orchfygir fynychaf ac yn hawsaf, er bod dy gydwybod yn rhoi senn i ti am dano. Ar hyn y mae gennit achos da i farnu mai hwnnw yw dy bechod anwyl.
4. Dal sulw pa beth yw'r hyn sydd hoffaf gennit ti feddwl am dano: Os ydyw meddyliau am dy feddiannau, ac am gasglu a phentyrru attynt, in beraidd ac in hyfryd gennit, yna mae i ti achos i dybied may cybydd-dod yw dy bechod anwyl. Os bid meddyliau am blesserau cnawdol in dy ogleisio di â hoffder, yna y mae i ti achos i dybygu may aflendid yw dy Delilah, a'th bechod anwyl, neu pa bechod bynnag yr wit ti in meddwl am dano gydâ 'r hyfrydwch mwyaf.
4. Dal sulw pa beth yw'r hyn sydd hoffaf gennit ti feddwl am dano: Os ydyw meddyliau am dy feddiannau, ac am gasglu a phentyrru attynt, yn beraidd ac yn hyfryd gennit, yna mae i ti achos i dybied mai cybydd-dod yw dy bechod anwyl. Os bydd meddyliau am blesserau cnawdol yn dy ogleisio di â hoffder, yna y mae i ti achos i dybygu mai aflendid yw dy Ddalilah, a'th bechod anwyl, neu pa bechod bynnag yr wyt ti yn meddwl am dano gydâ 'r hyfrydwch mwyaf.