A85479:114
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. VIII. Am wiliadwriaeth in erbyn pechod.
PEN. VIII. Am wiliadwriaeth yn erbyn pechod.
Cadw wiliadwriaeth wastadol in erbyn pechod in gyffredinol, heb gyd-ddwyn â thy dy hun mewn ymarfer gwirfodd o un peth, y wyddost ei fod in bechod. In offer y disgwyli am ddim gwir heddwch in dy enaid, cyhŷd ac yr wit in cadw ac in ffafrio ynot dy hun un mâth ar bechod in erbyn dy gydwybod. Canys megis y mae pechod in rhwystro cymundeb â Duw, felly hefyd y mae 'natal cyfranniad pethau da oddiwrth Dduw.
CAdw wiliadwriaeth wastadol yn erbyn pechod yn gyffredinol, heb gyd-ddwyn â thi dy hun mewn ymarfer gwirfodd o un peth, y wyddost ei fod yn bechod. Yn ofer y disgwyli am ddim gwir heddwch yn dy enaid, cyhŷd ac yr wyt yn cadw ac yn ffafrio ynot dy hun un mâth ar bechod yn erbyn dy gydwybod. Canys megis y mae pechod yn rhwystro cymundeb â Duw, felly hefyd y mae 'n attal cyfranniad pethau da oddiwrth Dduw.
Fell y jelly di ochelyd pechod in well, cymmer hyn o gyfarwyddiadau. 1. Cais ochelyd yr holl achosion a'r moddion, ar a ddichon dy ddenu a'th dynnu i bechod. Ammhossibl yw gochelyd y nail heb y llall. Nid yw bossibl ir sawl sy in dueddol at feddwdod ymgadw rhagddo ef, oddieithr iddo ochelyd lleoedd a chymdeithas y meddwon: Nid yw chwaith in bossibl ir hwn fydd drythyll ymattal ⟨p. 25⟩