A85479:127
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Dal sulw pa beth yw'r hyn sydd hoffaf gennit ti feddwl am dano: Os ydyw meddyliau am dy feddiannau, ac am gasglu a phentyrru attynt, in beraidd ac in hyfryd gennit, yna mae i ti achos i dybied may cybydd-dod yw dy bechod anwyl. Os bid meddyliau am blesserau cnawdol in dy ogleisio di â hoffder, yna y mae i ti achos i dybygu may aflendid yw dy Delilah, a'th bechod anwyl, neu pa bechod bynnag yr wit ti in meddwl am dano gydâ 'r hyfrydwch mwyaf.
4. Dal sulw pa beth yw'r hyn sydd hoffaf gennit ti feddwl am dano: Os ydyw meddyliau am dy feddiannau, ac am gasglu a phentyrru attynt, yn beraidd ac yn hyfryd gennit, yna mae i ti achos i dybied mai cybydd-dod yw dy bechod anwyl. Os bydd meddyliau am blesserau cnawdol yn dy ogleisio di â hoffder, yna y mae i ti achos i dybygu mai aflendid yw dy Ddalilah, a'th bechod anwyl, neu pa bechod bynnag yr wyt ti yn meddwl am dano gydâ 'r hyfrydwch mwyaf.
Darfyddo i ti gael allan dy bechod anwyl, rhaid i ti o flaen dim wilio in erbyn hwnnw, rhag i ti gael dy ortrechu ganddo;
Darfyddo i ti gael allan dy bechod anwyl, rhaid i ti o flaen dim wilio yn erbyn hwnnw, rhag i ti gael dy ortrechu ganddo;
In gyntaf o herwydd body pechod hwn mor felus, ac mor hyfryd gan Bechadur, fall y mae 'n anhawdd jawn ganddo ymadel ag ef. Ac am hynny y gellir in gymmwys ei alw ef, Y pechod sydd barod i'n hamgylchu, fell na ellir in hawdd mo'i daflu ymmaith, Heb. 12. 1. Y mae 'n Hachubwr in cyfrif ein gwaith ni in ymado â'n Pechod anwyl, megis pettem in tynnu allan y llygad dehau, ac in torri ymmath y law ddehau, canys medd efe, Mat. 5. 29, 30