A85479:116
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. VIII. Am wiliadwriaeth in erbyn pechod.
PEN. VIII. Am wiliadwriaeth yn erbyn pechod.
Cadw wiliadwriaeth wastadol in erbyn pechod in gyffredinol, heb gyd-ddwyn â thy dy hun mewn ymarfer gwirfodd o un peth, y wyddost ei fod in bechod. In offer y disgwyli am ddim gwir heddwch in dy enaid, cyhŷd ac yr wit in cadw ac in ffafrio ynot dy hun un mâth ar bechod in erbyn dy gydwybod. Canys megis y mae pechod in rhwystro cymundeb â Duw, felly hefyd y mae 'natal cyfranniad pethau da oddiwrth Dduw.
CAdw wiliadwriaeth wastadol yn erbyn pechod yn gyffredinol, heb gyd-ddwyn â thi dy hun mewn ymarfer gwirfodd o un peth, y wyddost ei fod yn bechod. Yn ofer y disgwyli am ddim gwir heddwch yn dy enaid, cyhŷd ac yr wyt yn cadw ac yn ffafrio ynot dy hun un mâth ar bechod yn erbyn dy gydwybod. Canys megis y mae pechod yn rhwystro cymundeb â Duw, felly hefyd y mae 'n attal cyfranniad pethau da oddiwrth Dduw.
Fell y jelly di ochelyd pechod in well, cymmer hyn o gyfarwyddiadau. 1. Cais ochelyd yr holl achosion a'r moddion, ar a ddichon dy ddenu a'th dynnu i bechod. Ammhossibl yw gochelyd y nail heb y llall. Nid yw bossibl ir sawl sy in dueddol at feddwdod ymgadw rhagddo ef, oddieithr iddo ochelyd lleoedd a chymdeithas y meddwon: Nid yw chwaith in bossibl ir hwn fydd drythyll ymattal ⟨p. 25⟩oddiwrth frynti ac aflendid, os cŷrch ef in fynych i gymdeithas anniwair, a byw mewn glothineb a meddwdod 2. Os gosodir arnat, gwrthwyneba bechod in y dechreu. Gochel gellwair neu chwareu â themptasiwnau, megis y mae 'r pryf â fflam y ganwyll, rhag dy losgi in ddiarwybod. Pechod ysgatfydd a ymddengys ar y cyntaf in fûl ac in anhŷf, ac in gywilyddgar, ac ni ddaw i mewn cyn iddo guro wrth ddrŵs dy gydwybod di; and os rhoddi le iddo a gado 'r ford in rhydd, heb ei gau ef allan, buan yr aiff ef in gyfeillgar, jë ac y tyrr ef i mewn arnat ti in ddisymmwth ac in ddirybydd. Y ford oreu gan hynny i ymgadw rhag pechod yw, cyn gynted ac y cynnhygio ef ddyfod i mewn, cau drŵs dy gallon in ei erbyn, a'i droi 'n ôl ag wynebprŷd digllon. 3. Os goddiweddir dt gan bechod in y bŷd, gwna dy oreu ar gael o honot yr oruchafiaeth arno cyn gynted fŷth ac y bo possibl, drwy wîr a diffuant edifeirwch, a thrwy fined drachefn i ymolchi in y ffynnon o waed Christ, a thrwy ymrwymo dy hun o newydd, mewn uniondeb calon, i fôd in fwy gwiliadwrus arnat dy hun rhagllaw. Bid ofalus na byddech di fyw, ac nad arhosech in ddiedifeiriol in yr arferiad o un pechod in erbyn dy gydwybod; canys cyhyd a hynny yr wit ti in gwisgo lifrai 'r Diafol, ac in ddieithrol i wîr heddwch. 4. Darfyddo i ti gael y maes neu 'r oruchafieth, gwilia rhag ail gwympo. Peryglus yw adglafychiad mewn clefydau corphorol, mwy o lawyer mewn rhai ysprydol: ac am hynny y rhoddes Christ y cyngor hwn ir dŷn clôff, yr hwn a jachaodd ef wrth lynn Bethesda, Na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth, Joan. 5. 14.