A85479:131
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ith gynnorthwyo di in erbyn dy bechod anwyl.
Ith gynnorthwyo di yn erbyn dy bechod anwyl.
1. Myfyria 'n ddifrifol ar ffrwythau chwerwon, a diwedd ofnadwy y pechod. Er y dichon dy bechod fôd in felus wrth ei wneuthur, etto fe fydd in chwerw in y diwedd. Canys y mae 'n rhaid i ûn o'r daubeth hyn i ganlyn ef, nail a'i chwerwder Edifeirwch, neu chwerwder cospedigaeth. In awr deved y goreu y ddichon dyfod ar ôl pechod, self, dy fôd ti in edifarhau am dano i jechydwriaeth; etto tristwch chwerw, wylofain chwerw, a galar chwerw ydyw ei ddiwedd ef. Eithr o biddy di heb edifeirwch am dy bechod, yna y canlyn chwerwder marwolaeth, a damnedigaeth gydâ 'r Diafol a'r Damnedig in nhân uffern in dragwyddol. Y mae gennym ni ymadrodd cyffredinol in ein mysc, Ni cheir y melus heb y ⟨p. 29⟩chwerw. Fell hyn y bid cwrw cadarn, y sydd in mined i wared in hyfryd, in chwerw in y diwedd, in ôl ymadrodd y Prophwyd Isaiah, Pen. 24. 9. Chwerw fydd diod grêf ir rhai a'i hyfant; hynny yw, hi droir i chwerwedd in y diwedd. Ac y mae Solomon wrth osod allan y Buttain, Dtbar. 5, 3. 4, 5.) a'r pethau y mae hi in eu gynnig i fodloni ei chariadau, in dibennu fell hyn, ci diwedd hi a fydd chwerw fell y wermod, nid in unig ei diwedd ei hunan, eithr hefyd diwedd y rhai a'i canlynant hi. Ei thraed hi medd Solomon a ddescynnant i angeu, a'i cherddediad a sang uffern. Hynny yw, y mae hi in mined ei hunan, ac in arwain y rhai sy 'n ei chanlyn hi, bendramwnwgl ir llyn hwnnw sydd in llosci, ym mhâ un y troer tân nwyfiant cnawdal i dân uffern, heb wîr a diffuant edifeirwch. Pa bryd bynnag gan hynny i'th demptir i un-rhyw bechod, ymressymma fell hyn â thydi dy hun; os myfi a roddaf lê ir brofedigaeth hon, ac a fodlonaf fy-nrygchwant drwy hynny, nail a'i mi a edifarhâf am hyn, neu nis gwnaf; oni edifarháfi▪ mi fyddaf damnedig; os edifarháfi, fe gŷst i mi lawyer mwy o dristwch a galar chwerw nag yr ennillaf o bleser ac hyfrydwch ing-weithrediad y pechod hwn. Oh gan hynny! pa fâth ynfydrwydd, a chynddeiriogrwydd hynod ydyw hyn mewn un dŷn, am ychydig o bleser byrr darfodedig ymma, i daflu ei hunan enaid a chorph ir lloscfeydd tragwyddol.