A85479:144
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Nac anghofia weddio ar i Dduw roi bendith ar y creaduriaid, yr wit ti i fôd in gyfrannog o honynt. Canys megis ac y llefara 'r Apostol, 1 Tim. 4. 4, 5. Y mae pôb peth a greodd Duw in dda, wedi ei sancteiddio gan Air Duw a Gweddi. Gan y Gair, megis ac y mae 'n dangos ac in siccrhau ein hawl ni in y creaduriaid; ac â Gweddi, megis ac y mae in fôdd wedi ei ordeinio gan Dduw o ran caffael ei fendith ef arnynt, heb yr hon (self Cweddi) ni wnânt hwy i ni and ychydig ddaioni: Canys nid trwy fara in unig y bid byw dŷn, and trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw, Mat. 4. 4. Hynny yw, nid ydyw bara in porthi o'i rim ei hunan, and trwy ordinhad a bendith Duw. Ac o herwydd hyn arfer gynnefinol ein Jachawdwr oedd edrych i fynu tu ar nefoedd, ac erfyn bendith ar y creaduriaid cyn iddo fôd in gyfrannog o honynt: a hyn a fu arfer cynnefinol y Saint nou bobl Dduw, o flaen amser Christ, ac ar ei ôl, Mar. 8. 6. Joan. 6. 11. 1 Sam. 9. 13. Act. 27. 35. Gan fôd gennit gan hynny y faith ecsamplau enwog iw dilyn in y matter hwn, nac ymbortha ûn amser ar greaduriaid da yr Arglwydd, nes i ti dderchafu dy gallon atto, a deisyf ei fendith ef arnynt: canys oni wnei hynny, mor gyfiawn y gellit ddisgwyl melltith oddiwrth Dduw in hytrach nâ bendith.
1. Nac anghofia weddio ar i Dduw roi bendith ar y creaduriaid, yr wyt ti i fôd yn gyfrannog o honynt. Canys megis ac y llefara 'r Apostol, 1 Tim. 4. 4, 5. Y mae pôb peth a greodd Duw yn dda, wedi ei sancteiddio gan Air Duw a Gweddi. Gan y Gair, megis ac y mae 'n dangos ac yn siccrhau ein hawl ni yn y creaduriaid; ac â Gweddi, megis ac y mae yn fôdd wedi ei ordeinio gan Dduw o ran caffael ei fendith ef arnynt, heb yr hon (sef Cweddi) ni wnânt hwy i ni ond ychydig ddaioni: Canys nid trwy fara yn unig y bydd byw dŷn, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw, Mat. 4. 4. Hynny yw, nid ydyw bara yn porthi o'i rym ei hunan, ond trwy ordinhad a bendith Duw. Ac o herwydd hyn arfer gynnefinol ein Iachawdwr oedd edrych i fynu tu ar nefoedd, ac erfyn bendith ar y creaduriaid cyn iddo fôd yn gyfrannog o honynt: a hyn a fu arfer cynnefinol y Saint nou bobl Dduw, o flaen amser Crist, ac ar ei ôl,