A85479:134
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Rhaid i ti gydâ chymmaint o offal ac ystyriaeth wilio in erbyn pechodau dirgel, ac in erbyn pechodau amlwg a chyhoeddus, gan wneuthur cydwybod o bechu in y dirgel, je pan bo gennit odfa o ddirgelwch iw wneuthur a'i gyflawni ef.
II. Rhaid i ti gydâ chymmaint o ofal ac ystyriaeth wilio yn erbyn pechodau dirgel, ac yn erbyn pechodau amlwg a chyhoeddus, gan wneuthur cydwybod o bechu yn y dirgel, ie pan bo gennit odfa o ddirgelwch iw wneuthur a'i gyflawni ef.
1. O herwydd ein bôd ni in barottach i gwympo i bechodau dirgel nag i bechodau amlwg a chyhoeddus. Canys os medrwn ni guddio 'n pechodau allan o olwg a gwybodaeth dynion, hawdd gennym dybied fod pôb peth in dda ac in ddiogel; ac ar hynny yr ymgefnogwn i bechu in y dirgel: Ac oblegid hyn y mae Job in dwyn i mewn y godinebwr in ymhyfáu ei hunan, neu in gwneuthur in eon i bechu, gan ddywedyd, ni chaiff llygad sy ngweled, Job 24. 15.
1. O herwydd ein bôd ni yn barottach i gwympo i bechodau dirgel nag i bechodau amlwg a chyhoeddus. Canys os medrwn ni guddio 'n pechodau allan o olwg a gwybodaeth dynion, hawdd gennym dybied fod pôb peth yn dda ac yn ddiogel; ac ar hynny yr ymgefnogwn i bechu yn y dirgel: Ac oblegid hyn y mae Job yn dwyn i mewn y godinebwr yn ymhyfáu ei hunan, neu yn gwneuthur yn eon i bechu, gan ddywedyd, ni chaiff llygad sy ngweled, Job 24. 15.
2. Er gallu o honom ni guddio ein dirgel bechodau allan o olwg dynion, etto y mae 'n ammhossibl eu cuddio hwynt oddiwrth lygad Duw, yr hwn sy in gweled pob peth, ac ynteu ei hun heb neb in ei welled; in bresennol ym mhôb lle, In canfod y drygionus ar daionus, Dihar. 15. 3. llofruddiaeth a godineb Dafydd a ddygwyd ym mlaen in ddirgel jawn, er hynny yr oeddynt in weledig i lygaid Duw, Ti a wnaethost hyn (ebe Duw) in ddirgel, and myfi a'th gospaf di 'n gyhoeddus. Os mini di (medd Austin) bechu in ddirgel, cais fan lle ni welo Duw dydi, ac yno gwnâ a fynnecb. Eithr gan fôd Duw in bresennol ym mhôb man, mae in ammhossibl