A85479:137
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Megis ac y mae Duw ymma in canfod, ac in dal sulw ar dy bechodau dirgelaf, felly ar ryw amser neu ei gilydd efe a ddatguddia weithredoedd y tywyllwch hynny, ith ddirfawr wradwydd di, heb wir edifeirwch; Oni bid hynny ymma in y bywyd hwn, etto fe fydd ar did y farn, pan ddatguddier ein pechodau dirgelaf yngŵydd pawb oll, Preg. 12. 14. Duw a ddŵg bôb gweithred i farn, a phôb peth dirgel, pan bynnag fyddo ai da ai drŵg. Ina y datcuddir dy holl-ddirgel bechodau di i Angelion, dynion a chythreuliaid; dy ddirgel aflendid, a'th gnddiedig odineb, dy waith in ysgyflio neu 'n chwiwo, a'th ladradau, dy bwysau a'th fesurau anghywir a ddygir lle y gwelo pawb, ith gywilydd a'th wrath tragwyddol. Pe byddei ein calonnau ni wedi eu llenwi â'r ystyriaeth hon, Oh! mor wiliadwrus y gwnai hyn ni arnom ein hunain in y dirgel, a pha faith arswyd y fyddei ynom rhag anturio ar bechod in y bŷd, er bod gennym odfa iw wneuthur ef in y dirgel?
3. Megis ac y mae Duw ymma yn canfod, ac yn dal sulw ar dy bechodau dirgelaf, felly ar ryw amser neu ei gilydd efe a ddatguddia weithredoedd y tywyllwch hynny, ith ddirfawr wradwydd di, heb wir edifeirwch; Oni bydd hynny ymma yn y bywyd hwn, etto fe fydd ar ddydd y farn, pan ddatguddier ein pechodau dirgelaf yngŵydd pawb oll, Preg. 12. 14. Duw a ddŵg bôb gweithred i farn, a phôb peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drŵg. Yna y datcuddir dy holl-ddirgel bechodau di i Angelion, dynion a chythreuliaid; dy ddirgel aflendid, a'th gnddiedig odineb, dy waith yn ysgyflio neu 'n chwiwo, a'th ladradau, dy bwysau a'th fesurau anghywir a ddygir lle y gwelo pawb, ith gywilydd a'th warth tragwyddol. Pe byddei ein calonnau ni wedi eu llenwi â'r ystyriaeth hon, Oh! mor wiliadwrus y gwnai hyn ni arnom ein hunain yn y dirgel, a pha fath arswyd y fyddei ynom rhag anturio ar bechod yn y bŷd, er bod gennym odfa iw wneuthur ef yn y dirgel?
III. Rhaid i ti fôd in wiliadwrus in erbyn y pechod lleiaf, heb gyfrif un pechod mor fychan a maddevawl, ac y jelly di gydâ dioglwch ei groesawu ef, a pharháu ynddo, a hynny o achos y rhesymmau hyn,
III. Rhaid i ti fôd yn wiliadwrus yn erbyn y pechod lleiaf, heb gyfrif un pechod mor fychan a maddeuawl, ac y gelli di gydâ dioglwch ei groesawu ef, a pharháu ynddo, a hynny o achos y rhesymmau hyn,