A85479:140
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. IX. Am ein hymddygiad wrth gymmeryd bwyd.
Wrth ystyried fôd ein Gwrthwynebwr y Diafol ym mhôb lle in gosod abwydydd a maglau i'n dal ni, ac in bendifaddeu ar ein Byrddau; am hynny mae 'n perthyn i ni mewn môdd enwedigol fôd in wiliadwrus arnom ein hunain ar ein Prydoedd bwyd. Ir diben hynny,
WRth ystyried fôd ein Gwrthwynebwr y Diafol ym mhôb lle yn gosod abwydydd a maglau i'n dal ni, ac yn bendifaddeu ar ein Byrddau; am hynny mae 'n perthyn i ni mewn môdd enwedigol fôd yn wiliadwrus arnom ein hunain ar ein Prydoedd bwyd. Ir diben hynny,
1. Nac anghofia weddio ar i Dduw roi bendith ar y creaduriaid, yr wit ti i fôd in gyfrannog o honynt. Canys megis ac y llefara 'r Apostol, 1 Tim. 4. 4, 5. Y mae pôb peth a greodd Duw in dda, wedi ei sancteiddio gan Air Duw a Gweddi. Gan y Gair, megis ac y mae 'n dangos ac in siccrhau ein hawl ni in y creaduriaid; ac â Gweddi, megis ac y mae in fôdd wedi ei ordeinio gan Dduw o ran caffael ei fendith ef arnynt, heb yr hon (self Cweddi) ni wnânt hwy i ni and ychydig ddaioni: Canys nid trwy fara in unig y bid byw dŷn, and trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw, Mat. 4. 4. Hynny yw, nid ydyw bara in porthi o'i rim ei hunan, and trwy ordinhad a bendith Duw. Ac o herwydd hyn arfer gynnefinol ein Jachawdwr oedd edrych i fynu tu ar nefoedd, ac erfyn bendith ar y creaduriaid cyn iddo fôd in gyfrannog o honynt: a hyn a fu arfer cynnefinol y Saint nou bobl Dduw, o flaen amser Christ, ac ar ei ôl,