A85479:145
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Bwytta megis yngŵydd Duw, yr hwn sydd in wastadol in bresennol gydâ ni, pale bynnag yr ydym, megis in ein gweláu, felly hefyd ar ein byrddau, in bwrw golwg ac in dal sulw ar ein holl weithredoedd ni. Dy ⟨p. 34⟩ddoethineb di gan hynny pale bynnag yr wit, fŷdd, ymddwyn o honot dy hun megis yngŵydd a cher bron Duw, in enwedigol ar dy Brydoedd Bwyd, lle 'r wit ti barottaf i anghofio Duw, ac i ymroddi dy hunan ir creadur, ac i ryngu bôdd ith chwant a'th awydd cnawdol.
2. Bwytta megis yngŵydd Duw, yr hwn sydd yn wastadol yn bresennol gydâ ni, pa le bynnag yr ydym, megis yn ein gweláu, felly hefyd ar ein byrddau, yn bwrw golwg ac yn dal sulw ar ein holl weithredoedd ni. Dy ⟨p. 34⟩ddoethineb di gan hynny pa le bynnag yr wyt, fŷdd, ymddwyn o honot dy hun megis yngŵydd a cher bron Duw, yn enwedigol ar dy Brydoedd Bwyd, lle 'r wyt ti barottaf i anghofio Duw, ac i ymroddi dy hunan ir creadur, ac i ryngu bôdd ith chwant a'th awydd cnawdol.
3. Tymmera a sancteiddia dy Brydoedd ag ymddiddanion ysprydol a sanctaidd, ar y lleiaf ag ymadroddion buddiol, fell y gallo dy enaid in gystal a'tb gorph gael ei borthi a'i faethu. Ir diben ymma cymmer achlysur i gyfodi dy gallon dy hun, a chalonnau y sawl a fo gydâ thy, i gofio Duw in serchog, drwy ddaioni a thiriondeb yr hwn, yr ydych in mwynhau yr hyn a osodir ger eich bronnau, fell y byddo i'ch calonnau drwy hynny gael eu hennyn â mwy o gariad tu ag atto ef. Yr ydym ni in darllen in yr Efangylwŷr may arfer gynnefinol Christ ar Brydoedd bwyd, oedd torri allan ir cyfryw ymadroddion, ac a fyddei in tueddu at ddaioni ysprydol y rhai a eisteddent gydag ef, gan berry grâs ir gwrandawŷr, Luc. 5. 31. Luc. 7. 41. Luc. 14. 16. Y mae'r ecsampl hon in deilwng o gael ei chanlyn gan Gristianogion. Ac o herwydd eich mawr ddiogi tuagat ymddiddanion ysprydol, ach diffrwythdra ynddynt, na fedrwch chwi gael allan ddefnydd cymmwys i hynny in ddisymmwth, fe fydd in rhan o ddoethineb ysprydol ynoch, feddwl ym mlaen law am ryw brif-byngciau blasus, a thymmerus i ymddiddan in eu cylch ar Brydoedd, ac a allo dueddu at ddaioni ac adeiladaeth eraill. Ac ymrowch i gofleidio pôb odfa a gynnigier i chwi gan néb i ymddiddan in ddaionus. Nid wyfi 'n gwadu nad ellwch in gyfreithlon ar eich Prydoedd bwyd siarad megis am newyddion, felly hefyd am fatterion dinasol, neu am eich negesevau eich hunan a'r cyffelyb: er hynny chwi wnewch in dda dymmheru eich dinasawl a'ch moesawl ymddiddanion â rhai traethiadau ysprydol a blasusaidd, ac a osodant allan rhyw beth neu gilydd ynghylch Trugaredd, Daioni, ac Haelioni Duw ar bôb Prŷd.