A85479:158
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Pan dreulier gormod o amser ynddynt. Difyrrwch a ddylei fôd megis saws i'ch bwyd, i wneuthur eich chwant in fwy awchlym i ddyledswyddau eich galwedigaeth; ac nid i'ch torlwytho eich hunain â hwynt, fell y gwneloch eich hunain in anghymmwyfach i ddyledswyddau eich galwedigaethau, ac hefyd i wasanaeth Duw. Rhaid i chwi wybod, may pennaf ddiben Duw in eich anfon chwi ir bŷd ydoedd nid fell y byddei i chwi ddilyn eich difyrrwch, and fell y treuliech eich amser a'ch nerth ya ei wasanaeth ef, ac in y moddion drwy y rhai y gellwch gael eich cymhwyso i hynny. Oni fydd mwy cyssur i ti ar awr Angeu i feddwl am yr amser y dreuliaist ti yngwasanaeth Duw, ac in ymbaratoi erbyn tragwyddoldeb, nag am yr amser y dreuliaist ti ar Gardiau, a chwarevon, a gwagedd eraill?
1. Pan dreulier gormod o amser ynddynt. Difyrrwch a ddylei fôd megis saws i'ch bwyd, i wneuthur eich chwant yn fwy awchlym i ddyledswyddau eich galwedigaeth; ac nid i'ch torlwytho eich hunain â hwynt, fel y gwneloch eich hunain yn anghymmwyfach i ddyledswyddau eich galwedigaethau, ac hefyd i wasanaeth Duw. Rhaid i chwi wybod, mai pennaf ddiben Duw yn eich anfon chwi ir bŷd ydoedd nid fel y byddei i chwi ddilyn eich difyrrwch, ond fel y treuliech eich amser a'ch nerth ya ei wasanaeth ef, ac yn y moddion drwy y rhai y gellwch gael eich cymhwyso i hynny. Oni fydd mwy cyssur i ti ar awr Angeu i feddwl am yr amser y dreuliaist ti yngwasanaeth Duw, ac yn ymbaratoi erbyn tragwyddoldeb, nag am yr amser y dreuliaist ti ar Gardiau, a chwareuon, a gwagedd eraill?
2. Pan wneler eich Difyrrwch in gelfyddyd o farsiandiaeth, megis pan chwarevo dynion in unic o ran ynnill arian: Yr hyn a ennillo dŷn wrth y fasnach ymma, ni all ef moi feddiannu a'i fwynhau â chydwybod dda. Ni roddwyd mo hono iddo ef gan Dduw, am na ddaeth ef o hŷd iddo drwy foddion cyfreithlon, eithr in hytrach y mae ef megis da lladrad, ûwch ben y rhai y mae melltith ⟨p. 37⟩Dduw in crogi. A'r sawl sy in colli, mae yntef hefyd in evog o ladrad, canys yr hyn y mae in ei golly, ei ddwyn y mae oddiar ei wraig, ei blant, a'i deulu, od oes rhai ganddo; neu onid oes, oddiar yr Eglwys, y Wladwriaeth a'r tlodion. Nid ydym ni in Arglwyddi ar ein golud, eithr in Oruchwyl-wŷr, a rhaid i ni roddi cyfrif am danynt. Och nad ystyriai yr holl chwareu-wŷr, pa gyfrif ofnadwy fydd iddynt iw roddi did y farn, nid in unic am eu hamser gwerthfawr a gamdreulir in afradlonus, and hefyd am eu golud a gollwyd gan mwyaf mewn môdd ddrygionus; pan gaffer in en cyfrif hwynt, fôd cymmaint wedi ddifrodi mewn chwareyddiaeth, a chin lleied wedi ei roddi ir tlodion, ac i weithredoedd o eluseni!