A85479:164
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. XI. Am Ddyledswyddau ein Galwedigaethau.
FE ddylai fôd gan bôb dŷn ryw Alwedigaeth iw ddilyn er gogoniant i Dduw, a daioni i eraill; Canys Ordinhâd Duw yw, bôd i bôb dŷn drwy chwŷs ei wyneb fwytta bara, Gen. 3. 19. Nid yw 'r geiriau hyn iw deal in unig megis melltith, and hefyd megis gorchymyn. Je yr oedd gan Adda in ei gynwr o Ddiniweidrwydd Alwedigaeth a osodesid iddo gan Dduw, self, I lafurio 'r Hard ac iw chadw hi, Gen. 2. 15. A phwy bynnag nid oes galwedigaeth ganddo, drwy yr honey gallo ef fôd in fuddiol▪ i gymdeithas ddynol, fe ddywedir ei fôd ef in byw allan o drefn, ac in rhodio in afreodus, 2 Thes 3 11. Heb law hyn, Lawyer o aflwydd ac o ddrygau a ochelir drwy ddilyn galwedigaeth gyfreithlon. Canys Gweithdŷ 'r Cythrael yw dŷn segurllyd; yno y mae ef in gweithio in brysur, self; pan yw dynion seguraf; eithr os caiff ef hwynt in ddyfal in eu galwediga ethau, yna y mae 'n cilio in ôl, gan wybod nad yw hi ddim in amser cyfaddas iddo▪ i osod arnynt á'i demptasiwnau. In awr fe ddylei pôb dŷn ofalu in enwedigol am gyflawni in gydwybodus ddyledswyddau ei alwedigaeth neilltuol, in yr honey cyfleuwyd ef drwy ragluniaeth Duw; canys y mae lawyer o rim a bywyd crefydd in sefyll in hynny. Ir diben hyn cymmer yr hyffordd adau a ganlynant▪
FE ddylai fôd gan bôb dŷn ryw Alwedigaeth iw ddilyn er gogoniant i Dduw, a daioni i eraill; Canys Ordinhâd Duw yw, bôd i bôb dŷn drwy chwŷs ei wyneb fwytta bara, Gen. 3. 19. Nid yw 'r geiriau hyn iw deall yn unig megis melltith, ond hefyd megis gorchymyn. Ie yr oedd gan Adda yn ei gynwr o Ddiniweidrwydd Alwedigaeth a osodesid iddo gan Dduw, sef, I lafurio 'r Ardd ac iw chadw hi, Gen. 2. 15. A phwy bynnag nid oes galwedigaeth ganddo, drwy yr hon y gallo ef fôd yn fuddiol i gymdeithas ddynol, fe ddywedir ei fôd ef yn byw allan o drefn, ac yn rhodio yn afreodus, 2 Thes 3 11. Heb law hyn, Llawer o aflwydd ac o ddrygau a ochelir drwy ddilyn galwedigaeth gyfreithlon. Canys Gweithdŷ 'r Cythrael yw dŷn segurllyd; yno y mae ef yn gweithio yn brysur, sef; pan yw dynion seguraf; eithr os caiff ef hwynt yn ddyfal yn eu galwediga ethau, yna y mae 'n cilio yn ôl, gan wybod nad yw hi ddim yn amser cyfaddas iddo i osod arnynt á'i demptasiwnau. Yn awr fe ddylei pôb dŷn ofalu yn enwedigol am gyflawni yn gydwybodus ddyledswyddau ei alwedigaeth neilltuol, yn yr hon y cyfleuwyd ef drwy ragluniaeth Duw; canys y mae llawer o rym a bywyd crefydd yn sefyll yn hynny. Ir diben hyn cymmer yr hyffordd adau a ganlynant