A85479:177
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf, pan ydym in unig, rhaid i ni ofalu, na byddom ni ar waith drwg, na chwaith in segur ac in ddiffrwyth, eithr ar i ni fôd ar waith da, wedi ein cymmeryd i fynu â myfyrdodau ysprydol a nefol.
Yn gyntaf, pan ydym yn unig, rhaid i ni ofalu, na byddom ni ar waith drwg, na chwaith yn segur ac yn ddiffrwyth, eithr ar i ni fôd ar waith da, wedi ein cymmeryd i fynu â myfyrdodau ysprydol a nefol.
1. Canys adeg neu odfa 'r cythrael yw neillduolrwydd, yr honey bu ef erioed in ofalus am ei chofleidio, a gwneuthur defnydd o honey fell y byddei fwyaf ei fudd ef; fell y gwelwn ni in Nafydd, yr hwn pan oedd ef in rhodio in unig ar nen ei dŷ, yno y gosododd y cythrael arno ef â'i demptasiwn i odinebu, ac a'i gorchfygodd ef, 2 Sam. 11. 2. Ac o herwydd hynny mor berthnasol ydyw i ni, y prŷd hynny in enwedigol fod in wiliadwrus arnom ein hunain?
1. Canys adeg neu odfa 'r cythrael yw neillduolrwydd, yr hon y bu ef erioed yn ofalus am ei chofleidio, a gwneuthur defnydd o honi fel y byddei fwyaf ei fudd ef; fel y gwelwn ni yn Nafydd, yr hwn pan oedd ef yn rhodio yn unig ar nen ei dŷ, yno y gosododd y cythrael arno ef â'i demptasiwn i odinebu, ac a'i gorchfygodd ef, 2 Sam. 11. 2. Ac o herwydd hynny mor berthnasol ydyw i ni, y prŷd hynny yn enwedigol fod yn wiliadwrus arnom ein hunain?
2. O herwydd ein bôd ni y pride hynny mewn mwyaf o berygl, i gael ein gorddiwes a'n gorchfygu gan ein trachwantau pechadurus: Ina yr ydym ni in barottaf i ollwng ein calonnau allan i wibio ar ôl trythyllwch, ac i fyfyrio ar ddrygioni, drwy borthi ein mympwy neu 'n phansi neu 'n tŷb, a rhyngu bôdd i ni 'n hunain mewn meddyliau beilchion, dialeddus, anllad a'r cyffelyh Ac am hynny