A85479:167
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Bid boenus a diwyd in nyledswyddau dy alwedigaeth, in ôl cyngor y gŵr doeth, Preg. 9 10. Beth bynnag a ymafel ⟨p. 39⟩dy law ynddo iw wneuthur, gwna â'th holl egni, hynny yw, pa weithredoedd neu ddyledswyddau bynnig sydd in perthyn i ti o ran dy alwedigaeth, gwna hwynt in ddyfal ac in ddiwyd; nid cymmaint er mwyn casglu cyfoeth, ac er mwyn cyrraedd pethau angenrheidiol i tidy hun, dy wraig a'th blant. Y mae 'n Ja hawdwr in canmol hyn, drwy y peth a arferei ef ei hunan, canys medd efe, Joan. 9. 4. Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn▪ a'm hanfonodd, tra ydyw hi in did, hynny yw in ddiwyd, o hŷd, nes ei orphen.
II. Bydd boenus a diwyd yn nyledswyddau dy alwedigaeth, yn ôl cyngor y gŵr doeth, Preg. 9 10. Beth bynnag a ymafel ⟨p. 39⟩dy law ynddo iw wneuthur, gwna â'th holl egni, hynny yw, pa weithredoedd neu ddyledswyddau bynnig sydd yn perthyn i ti o ran dy alwedigaeth, gwna hwynt yn ddyfal ac yn ddiwyd; nid cymmaint er mwyn casglu cyfoeth, ac er mwyn cyrraedd pethau angenrheidiol i ti dy hun, dy wraig a'th blant. Y mae 'n Ia hawdwr yn canmol hyn, drwy y peth a arferei ef ei hunan, canys medd efe, Joan. 9. 4. Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn▪ a'm hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd, hynny yw yn ddiwyd, o hŷd, nes ei orphen.
Ich hannog chwi i hyn, gwybyddwch, fod diwydrw ydd dynion in eu galwedigaethau in arferol o gael ei goroni â golud, ac ag amlder. Dihar. 10. 4. Dihar. 13. 4. Law y diwyd a gyfoethoga. Enaid y diwyd a wneir in frâs, hynny yw, a gyfoethogir â bendithion oddiallan. Adiau may anfynych jawn nad yw bendith in cydymganlyn â law ddiwyd.
Ich hannog chwi i hyn, gwybyddwch, fod diwydrw ydd dynion yn eu galwedigaethau yn arferol o gael ei goroni â golud, ac ag amlder. Dihar. 10. 4. Dihar. 13. 4. Llaw y diwyd a gyfoethoga. Enaid y diwyd a wneir yn frâs, hynny yw, a gyfoethogir â bendithion oddiallan. Adiau mai anfynych iawn nad yw bendith yn cydymganlyn â llaw ddiwyd.