A85479:171
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Ymegnia ar fôd â meddyliau nefol in dy orchmylion ⟨p. 40⟩daiarol. Dilyn dy negesevon bydol â serchiadau ysprydol, gan dderchafu dy gallon in fynych at Dduw mewn rhyw nefol faethiadan neu weddiau byrrion. Je, gwna dy oreu, ar wneuthur rhyw ddefnydd o'r amser yr wit in dilyn gorchwylion dy alwedigaeth ynddo, fell y caffech ryw elw ysprydol, drwy ryw fyfyrdodau buddiol; in enwedig os bid dy orchwyl in gyfryw un, ag sy in gosod y law, ac nid y pen ar waith. Fell yr wit ti in awchus in dilyn dy negesevon bydol, myfyria in fynych ar yr ymadrodd rhagorol hwnnw o'r eiddo 'n Achubwr, Mar. 8. 36. Pa lesâd i ddŷn, os ennill yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun?
2. Ymegnia ar fôd â meddyliau nefol yn dy orchmylion ⟨p. 40⟩daiarol. Dilyn dy negeseuon bydol â serchiadau ysprydol, gan dderchafu dy galon yn fynych at Dduw mewn rhyw nefol faethiadan neu weddiau byrrion. Ie, gwna dy oreu, ar wneuthur rhyw ddefnydd o'r amser yr wyt yn dilyn gorchwylion dy alwedigaeth ynddo, fel y caffech ryw elw ysprydol, drwy ryw fyfyrdodau buddiol; yn enwedig os bydd dy orchwyl yn gyfryw un, ag sy yn gosod y llaw, ac nid y pen ar waith. Fel yr wyt ti yn awchus yn dilyn dy negeseuon bydol, myfyria yn fynych ar yr ymadrodd rhagorol hwnnw o'r eiddo 'n Achubwr, Mar. 8. 36. Pa lesâd i ddŷn, os ennill yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun?
III. Ymroa ac ymagnia ar fôd in ffyddlon ac in buraidd in holl weithredoedd dy alwedigaeth; a thrwy faith ar ddirmyg ffieiddia ennill dim drwy foddion drygionus a thwyllodrus, megis drwy gelwydd, pwysau a mesurau anghywir, &c. gan wybod, y dichon ychydig a enniller in ddrwg wenwyno holl dda dŷn, a dwyn melltith ar gwbl ôll ag a feddo, fe ddichon ddigwyddo i fôd in debyg ir cîg y ddygodd yr eryr oddiar yr Allor â marworyn ynddo, ac a loscodd yr holl nŷth. Bydded gan hynny wirionedd, uniondeb a thegwch in dy holl ymdriniaeth â dynion.