A85479:186
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am ei naturiaeth ef, pa beth yw, yr wyfi 'n Atteb, Myfyrdod pennodol bwriadol, yw difrifol ymwasgiad y meddwl wrth rhyw fatter ysprydol neu nefol, gan ymddiddan in ei gylch rhyngot â thy dy hun; fell y cynnheser dy gallon, y bywioger dy serchiadau, ac y derchafer dy fwriadau i fwy o gariad at Dduw, a chasineb ir pechod, &c.
Am ei naturiaeth ef, pa beth yw, yr wyfi 'n Atteb, Myfyrdod pennodol bwriadol, yw difrifol ymwasgiad y meddwl wrth rhyw fatter ysprydol neu nefol, gan ymddiddan yn ei gylch rhyngot â thi dy hun; fel y cynnheser dy galon, y bywioger dy serchiadau, ac y derchafer dy fwriadau i fwy o gariad at Dduw, a chasineb ir pechod, &c.
Y Rheolau i ddal sulw arnynt in y matter hyn a ganlynant.
Y Rheolau i ddal sulw arnynt yn y matter hyn a ganlynant.
1. Bydded i fatter dy fyfyrdod di fod in hollawl in ysprydol ac in dduwiol. Ac fell hyn y mae pôb rhan o'r Scrythur in fatter cymmwys i ti fyfyrio arno; felly hefyd y mae Duw, a'i holl Briodoliaethau, megis ei Holl-alluogrwydd, ei Dragwyddoldeb, Anghyfnewidioldeb, Holl-bresenoldeb, Hollwybodaeth, Sancteiddrwydd, Doethineb, Trugaredd, Cyfiawnder, Cariad, Ffyddlondeb, a phôb godidowgrwydd arall o eiddo Duw. Y mae hefyd y cyflwr bendigedig in yr hwn y creawdd Duw ein Rhieni cyntaf; a'r cyflwr truenus hwnnw ir hwn y soddasant hwy eu hunain, a'u holl heppil. drwy eu hanufydd-dod in erbyn Duw, drwy fwytta y ffrwyth gwaharddedig: a'r prynedigaeth drwy Jesus Grist, a thra ragorawl gariad Christ in mined tan ângeu chwerw a melltigedig drosom ni: y mae 'r pethau hyn i gyd meddafi in ddefnydd cymmwys i fyfyrio arnynt.
1. Bydded i fatter dy fyfyrdod di fod yn hollawl yn ysprydol ac yn dduwiol. Ac fel hyn y mae pôb rhan o'r Scrythur yn fatter cymmwys i ti fyfyrio arno; felly hefyd y mae Duw, a'i holl Briodoliaethau, megis ei Holl-alluogrwydd, ei Dragwyddoldeb, Anghyfnewidioldeb, Holl-bresenoldeb, Hollwybodaeth, Sancteiddrwydd, Doethineb, Trugaredd, Cyfiawnder, Cariad, Ffyddlondeb, a phôb godidowgrwydd arall o eiddo Duw. Y mae hefyd y cyflwr bendigedig yn yr hwn y creawdd Duw ein Rhieni cyntaf; a'r cyflwr truenus hwnnw ir hwn y soddasant hwy eu hunain, a'u holl heppil. drwy eu hanufydd-dod yn erbyn Duw, drwy fwytta y ffrwyth gwaharddedig: a'r prynedigaeth drwy Jesu Grist, a thra ragorawl gariad Crist yn myned tan ângeu chwerw a melltigedig drosom ni: y mae 'r pethau hyn i gyd meddafi yn ddefnydd cymmwys i fyfyrio arnynt.