A85479:199
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Am hynny gwna fawr gyfrif, ac ymgais in ddifrifol am gymdeithas y cyfryw ray ar sydd dduwiol, canys drwy hynny y cei welled mwy o gynnydd in dy dduwioldeb, gwybodaeth, ffydd, zel, a'th holl radau eraill. Ac fe ellir dal sulw, lle nid yw pobl Dduw in cŷdymgymdeithasu mewn cymmundeb sanctaidd, nad oes yno fawr ffynniant a chynnydd mewn gràs a duwioldeb, er eu bod in byw tan weinidogaeth mor nerthol ac a alley sith fôd.
1. Am hynny gwna fawr gyfrif, ac ymgais yn ddifrifol am gymdeithas y cyfryw rai ar sydd dduwiol, canys drwy hynny y cei weled mwy o gynnydd yn dy dduwioldeb, gwybodaeth, ffydd, zel, a'th holl radau eraill. Ac fe ellir dal sulw, lle nid yw pobl Dduw yn cŷdymgymdeithasu mewn cymmundeb sanctaidd, nad oes yno fawr ffynniant a chynnydd mewn gràs a duwioldeb, er eu bod yn byw tan weinidogaeth mor nerthol ac a allei fyth fôd.
2. Cais ochel in fwyaf ac y gallech gymdeithas dynion annuwiol a halogedig, in enwedig y cyfryw ac sydd watwarwŷr duwioldeb a chrefydd. 1. O herwydd bod in hawdd jawn ein llygru ni â gwenwyndra eu pechodau hwynt; y cyfryw bŷg a ddiwyna ein dillad ni. 2. O herwydd ein bôd ni drwy hynny mewn perygl o'n hamgylchu in eu pláau amserol hwynt. 3. O herwydd drwy hynny yr annogwn ac yr hyfâwn hwynt in eu ffyrdd ddrygionus ac halogedig; Canys annogaeth fawr i ddynion annuwiol i fined ym mlaen in eu helyntiau drygionus a phechadurus, yw, pan gaffont gymdeithas y duwiol i gydsynnied â hwynt.
2. Cais ochel yn fwyaf ac y gallech gymdeithas dynion annuwiol a halogedig, yn enwedig y cyfryw ac sydd watwarwŷr duwioldeb a chrefydd. 1. O herwydd bod yn hawdd iawn ein llygru ni â gwenwyndra eu pechodau hwynt; y cyfryw bŷg a ddiwyna ein dillad ni. 2. O herwydd ein bôd ni drwy hynny mewn perygl o'n hamgylchu yn eu pláau amserol hwynt. 3. O herwydd drwy hynny yr annogwn ac yr hyfâwn hwynt yn eu ffyrdd ddrygionus ac halogedig; Canys annogaeth fawr i ddynion annuwiol i fyned ym mlaen yn eu helyntiau drygionus a phechadurus, yw, pan gaffont gymdeithas y duwiol i gydsynnied â hwynt.