A85479:205
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Bydded dy ymddygiad â'th ymarweddiad in ostyngedig, gan fod in ewyllysgar i gyfrannu dy gynghorion, a'th gyssurau, a'th brofiadau ir Cristianogion tlottaf a gwaelaf, ac i dderbyn cyfran o'u cynghorion a'u cyssurau, a'u profiadau hwynt; heb fod in ddiystyr gennyt ddysgu dim ar sydd dda gan y rhai sydd ym mhêll îs dy law di, megis ac ni ddiystyrodd Apollos i gael ei ddyscu gan Aquila a Phriscilla, Act. 18. 26.
I. Bydded dy ymddygiad â'th ymarweddiad yn ostyngedig, gan fod yn ewyllysgar i gyfrannu dy gynghorion, a'th gyssurau, a'th brofiadau ir Cristianogion tlottaf a gwaelaf, ac i dderbyn cyfran o'u cynghorion a'u cyssurau, a'u profiadau hwynt; heb fod yn ddiystyr gennyt ddysgu dim ar sydd dda gan y rhai sydd ym mhêll îs dy law di, megis ac ni ddiystyrodd Apollos i gael ei ddyscu gan Aquila a Phriscilla, Act. 18. 26.
II. In dy holl ymdriniaeth â dynion, cais fod in frwythlon ac in llesol i tidy hun, ac i eraill, drwy dderbyn a gwneuthur yr holl ddaioni a ellych.
II. Yn dy holl ymdriniaeth â dynion, cais fod yn frwythlon ac yn llesol i ti dy hun, ac i eraill, drwy dderbyn a gwneuthur yr holl ddaioni a ellych.
1. I tidy hun drwy dderbyn yr holl ddaioni a ellych oddiwrth eraill. Ir diben ymma, pan witty ynghymdeithas eraill, dal-sulw in ddyfal, ym mha ddoniau a rhadau y mae neb in rhagori, (canys Duw a wasgarodd amryw ddoniau iw bobl, ni chynnysgaeddwyd pawb in yr un môdd) ac yna gwna dy oreu, ar dynnu y doniau a'r rhadau hynny allan, ith ddaioni a'th elw ysprydol dy hun.