A85479:192
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mi a allaf alw y cyntaf in Ddwysfeddyliad, wrth yr hyn yr wyfi in meddwl ymddiddaniad y dealltwriaeth ynghylch y matter y pennoder arno, ac adgoffâd o amryw wirioneddau a berthynant iddo. Megis os marwolaeth fydd defnydd dy fyfyrdod, yna atgofia, a meddwl in ddifrifol, megis am siccrwydd marwolaeth, felly hefyd am ei hansiccrwydd, a hynny in gystal o ran y Mann pale, a'r Môdd pa sut, ac o ran yr Amfer pa brŷd; ac oddiwrth hynny ymresymma, fod in anghenrhaid disgwyl in wastadol am farwolaeth, a pharatoi in ei herbyn.
Mi a allaf alw y cyntaf yn Ddwysfeddyliad, wrth yr hyn yr wyfi yn meddwl ymddiddaniad y dealltwriaeth ynghylch y matter y pennoder arno, ac adgoffâd o amryw wirioneddau a berthynant iddo. Megis os marwolaeth fydd defnydd dy fyfyrdod, yna atgofia, a meddwl yn ddifrifol, megis am siccrwydd marwolaeth, felly hefyd am ei hansiccrwydd, a hynny yn gystal o ran y Mann pa le, a'r Môdd pa sut, ac o ran yr Amfer pa brŷd; ac oddiwrth hynny ymresymma, fod yn anghenrhaid disgwyl yn wastadol am farwolaeth, a pharatoi yn ei herbyn.
Yr ail yw cymmbwysiad attat dy hun o'r gwirioneddau hynny a elwaist ith gôf, fell y cynnheser dy gallon, ac y bywioger dy ferchiadau drwy hynny.
Yr ail yw cymmbwysiad attat dy hun o'r gwirioneddau hynny a elwaist ith gôf, fel y cynnheser dy galon, ac y bywioger dy ferchiadau drwy hynny.
Y trydydd peth a'r olaf yw Llwyrfwriad, self llwyrfryd calon i wneuthur hyn neu hynny, neu i adel heibio hyn neu hynny; megis os marwolaeth y fu defnydd dy fyfyrdod, a'th fôd in clywed dy gallon wedi llwyr weithio arni â theimlad o hynny, in enwedigol o ansiccrwydd amser dy farwolaeth; yna dyro dy frŷd ar fôd in fwy gofalus i gofleidio pôb odfa i wneuthur daioni, gan dybied y dichon hi fôd yr olaf ar a ganiadhaer i ti; ac ymrôa hefyd ar fyw mewn gwastadol ddisgwyliad am farwolaeth, ac ymbaratóad in ei herbyn, drwy adnewyddiad beunyddiol o'th heddwch gydâ Duw.