A85479:206
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. In dy holl ymdriniaeth â dynion, cais fod in frwythlon ac in llesol i tidy hun, ac i eraill, drwy dderbyn a gwneuthur yr holl ddaioni a ellych.
II. Yn dy holl ymdriniaeth â dynion, cais fod yn frwythlon ac yn llesol i ti dy hun, ac i eraill, drwy dderbyn a gwneuthur yr holl ddaioni a ellych.
1. I tidy hun drwy dderbyn yr holl ddaioni a ellych oddiwrth eraill. Ir diben ymma, pan witty ynghymdeithas eraill, dal-sulw in ddyfal, ym mha ddoniau a rhadau y mae neb in rhagori, (canys Duw a wasgarodd amryw ddoniau iw bobl, ni chynnysgaeddwyd pawb in yr un môdd) ac yna gwna dy oreu, ar dynnu y doniau a'r rhadau hynny allan, ith ddaioni a'th elw ysprydol dy hun.
1. I ti dy hun drwy dderbyn yr holl ddaioni a ellych oddiwrth eraill. Ir diben ymma, pan wyti ynghymdeithas eraill, dal-sulw yn ddyfal, ym mha ddoniau a rhadau y mae neb yn rhagori, (canys Duw a wasgarodd amryw ddoniau iw bobl, ni chynnysgaeddwyd pawb yn yr un môdd) ac yna gwna dy oreu, ar dynnu y doniau a'r rhadau hynny allan, ith ddaioni a'th elw ysprydol dy hun.
2. I eraill drwy gyfrannu iddynt y cyfryw bethau daionus y dybiech eu bod in gymmhwysaf iw hystat a'u cyflwr presennol hwynt. Po mwyaf o ddaioni a gyfrannech di i eraill, mwyaf a gyfranna Duw i tithe; canys doniau a rhadau yspryd Duw ydynt (megis y Talentau) in tyfu ac in cynnyddu, wrth eu harfer a gwneuthur defnydd o honynt.
2. I eraill drwy gyfrannu iddynt y cyfryw bethau daionus y dybiech eu bod yn gymmhwysaf iw hystat a'u cyflwr presennol hwynt. Po mwyaf o ddaioni a gyfrannech di i eraill, mwyaf a gyfranna Duw i tithe; canys doniau a rhadau yspryd Duw ydynt (megis y Talentau) yn tyfu ac yn cynnyddu, wrth eu harfer a gwneuthur defnydd o honynt.