A85479:219
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ar Air, 1. Pan ganmholant eraill am eu pechodau. 2. Pan ddadlevant drostynt a'u hamddiffyn hwynt in eu pechodau. 3. Pan druthiant, ac y gwenhieithiant iddynt ynddynt. Dynion a ymfodlonant i bechodau rhai eraill ar Weithred, pan ydynt gymdeithion a chŷd weithwŷr â hwynt in yr unrhyw bechodau. In ddirgel, y mae dynion in ymfodloni i bechodau rhai eraill, pan ydynt in cyd-synnied â hwynt: fe ellir dywedyd fod hwnnw in cydsynnied in ddistaw. ar sydd nail ai heb ddatcuddio y pechod a wypo, pan ddylai, neu heb ddangos dim anfodlondeb iddo, pan ganffyddo ef. Ac y mae hyn in fynych mor niweidiol, o ran y troseddwr, ac a ydyw drwg cyngor; Canys megis ag y mae ymadrodd drwg in annog dynion i bechu, felly y mae drwg ddistawrwydd in gado dynion in y pechod.
Ar Air, 1. Pan ganmholant eraill am eu pechodau. 2. Pan ddadleuant drostynt a'u hamddiffyn hwynt yn eu pechodau. 3. Pan druthiant, ac y gwenhieithiant iddynt ynddynt. Dynion a ymfodlonant i bechodau rhai eraill ar Weithred, pan ydynt gymdeithion a chŷd weithwŷr â hwynt yn yr unrhyw bechodau. Yn ddirgel, y mae dynion yn ymfodloni i bechodau rhai eraill, pan ydynt yn cyd-synnied â hwynt: fe ellir dywedyd fod hwnnw yn cydsynnied yn ddistaw. ar sydd naill ai heb ddatcuddio y pechod a wypo, pan ddylai, neu heb ddangos dim anfodlondeb iddo, pan ganffyddo ef. Ac y mae hyn yn fynych mor niweidiol, o ran y troseddwr, ac a ydyw drwg cyngor; Canys megis ag y mae ymadrodd drwg yn annog dynion i bechu, felly y mae drwg ddistawrwydd yn gado dynion yn y pechod.
III. Gofidia a galara dross y pechodau a ddeallech eu bôd in eu plith hwynt. Mynych y nodir, ac y canmholir megis grâs enwedigol mewn amryw ray o Seintiau Duw, fod arnynt flinder mawr o'u mewn am yr ammarch a wneid i ⟨p. 50⟩Dduw drwy bechodau eraill; megis Moses, Dafydd, Jeromi, ac eraill, Deut. 9. 18, 19. Psal. 119. 158.