A85479:214
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr Hyfforddiadau neilltuol in perthyn i'n hymddygiad mewn cwmpeini drwg, yw y rhai'n.
Yr Hyfforddiadau neilltuol yn perthyn i'n hymddygiad mewn cwmpeini drwg, yw y rhai'n.
I. Pan wit ti o ran rhyw achos cyffredinol mewn cwmpeini drwg (canys os amgen, fall y dangosasom or blaen, rhaid i ti ym mhôb môdd ci ochelyd ef) gwêl ar i'th ymarweddiad fôd gŷd â diniweidrwydd y Golommen, in ddifeius a ⟨p. 49⟩diddrwg, in ôl cyngor yr Apostol, Phil. 2. 15. Y gwirionedd yw, may prin y mae moddion gwell i helaethu 'r Efengyl, ac iw dwysblannu hi ar serchiadau dynion naturiol, nag ymddygiad têg, ac ymarweddiad gonest ei Phroffeswŷr hi. Mae hyn fell arogl ennaint Christ, pêreidd-dra yr hwn sy in tynnu serchiadau eraill ar ei ôl.
I. Pan wyt ti o ran rhyw achos cyffredinol mewn cwmpeini drwg (canys os amgen, fal y dangosasom or blaen, rhaid i ti ym mhôb môdd ci ochelyd ef) gwêl ar i'th ymarweddiad fôd gŷd â diniweidrwydd y Golommen, yn ddifeius a ⟨p. 49⟩diddrwg, yn ôl cyngor yr Apostol, Phil. 2. 15. Y gwirionedd yw, mai prin y mae moddion gwell i helaethu 'r Efengyl, ac iw dwysblannu hi ar serchiadau dynion naturiol, nag ymddygiad têg, ac ymarweddiad gonest ei Phroffeswŷr hi. Mae hyn fel arogl ennaint Christ, pêreidd-dra yr hwn sy yn tynnu serchiadau eraill ar ei ôl.
II. Bid ofalus na byddech gyfrannog o'u pechodau hwynt; Yr hwn yw 'r Cyngor a ddyru yr Apostol,