A85479:222
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Fôd y neb ni cheryddo ei frawd pan welo ef in gwneuthur ar fai, mewn gwirionedd in ei gasau ef, ac nid in ei garu; am nad oes un cariad tebyg i gariad o gerydd.
1. Fôd y neb ni cheryddo ei frawd pan welo ef yn gwneuthur ar fai, mewn gwirionedd yn ei gasau ef, ac nid yn ei garu; am nad oes un cariad tebyg i gariad o gerydd.
2. Dy fôd ti drwy ado dy frawd in ddigerydd, in dioddef iddo redeg ymlaen, a pharhau in ei ystod o bechod, yr hyn o'r diwedd a ddigwydd in ddestryw iddo.
2. Dy fôd ti drwy ado dy frawd yn ddigerydd, yn dioddef iddo redeg ymlaen, a pharhau yn ei ystod o bechod, yr hyn o'r diwedd a ddigwydd yn ddestryw iddo.
O ran yr uniawn fodd i gyflawni y ddyledswydd hon, rhaid yw dal ar ryw Reolau Cyffredinol, a rhai Neilltuol hefyd, in ol amryw amgylchiadau. Rheolau Cyffredinol yw y rhain,
O ran yr uniawn fodd i gyflawni y ddyledswydd hon, rhaid yw dal ar ryw Reolau Cyffredinol, a rhai Neilltuol hefyd, yn ol amryw amgylchiadau. Rheolau Cyffredinol yw y rhain,