A85479:251
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
V. Llafuria am y gwir olud ysprydol, self, jachusawl, Sancteiddrym radau, fell y byddech di dy hun in oludog, ac nid dy gift in unig. A diau, fod gwŷr goludog, in anad pawb eraill, in sefyll mewn mwy eisiau o radau sancteiddwaith; o achos bod eu golud in faglau tramawr iddynt hwy, ac in achosion o bechod, megis ac y mae siacced laes neu goat hîr mewn mwy pergyl o ddiblo, nag un gwtta. Oh gan hynny erfyn gan Dduw na rotho ef mo honot di heibio â phethau 'r bid hwn; eithr ar iddo ef ynghŷd âi fendithion oddiallan, roddi i ti ei sendithion oddi fewn, gwir, jachusawl, a sancteiddrym ⟨p. 55⟩radau, in enwedigol y grâs o dlodi ysprydol, yr hwn yw sylfaen gwynfyd; canys, medd ein Jachawdwr, Gwyn eu bid y tlodion in yr yspryd, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd, Mat. 5. 3. Ymadrodd godidog ydoedd hwnnw o'r eiddo Luther, pan anfonodd Tywysogion Germania iddo fawr anrhegion, Proffessu yr wyfi ar gyhoedd, medd ef, Na fynnai mo'm bodloni gan yr Arglwydd felly. Gwnâ ditheu in yr un môdd, cymmer arnat yr unrhyw wrolfrŷd.
V. Llafuria am y gwir olud ysprydol, sef, iachusawl, Sancteiddrym radau, fel y byddech di dy hun yn oludog, ac nid dy gift yn unig. A diau, fod gwŷr goludog, yn anad pawb eraill, yn sefyll mewn mwy eisiau o radau sancteiddwaith; o achos bod eu golud yn faglau tramawr iddynt hwy, ac yn achosion o bechod, megis ac y mae siacced laes neu goat hîr mewn mwy pergyl o ddiblo, nag un gwtta. Oh gan hynny erfyn gan Dduw na rotho ef mo honot di heibio â phethau 'r byd hwn; eithr ar iddo ef ynghŷd âi fendithion oddiallan, roddi i ti ei sendithion oddi fewn, gwir, iachusawl, a sancteiddrym ⟨p. 55⟩radau, yn enwedigol y grâs o dlodi ysprydol, yr hwn yw sylfaen gwynfyd; canys, medd ein Iachawdwr, Gwyn eu byd y tlodion yn yr yspryd, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd, Mat. 5. 3. Ymadrodd godidog ydoedd hwnnw o'r eiddo Luther, pan anfonodd Tywysogion Germania iddo fawr anrhegion, Proffessu yr wyfi ar gyhoedd, medd ef, Na fynnai mo'm bodloni gan yr Arglwydd felly. Gwnâ ditheu yn yr un môdd, cymmer arnat yr unrhyw wrolfrŷd.