A85479:264
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Fod y rhai sydd ganddynt ymborth a dillad digonol, in mwynhau cymmaint ag y mae 'r dynion cyfoethoccaf ar sy ar y ddaiar: ar yr hyn y dywaid yr Apostol in ill a grybwyllwyd am dano or blaen, O bid gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny, 1 Tim. 6. 8. Er meddu o ddŷn fwy nâ mwy o dda 'r bŷd ymma, er hynny nid yw ef in mwynhau ddim mwy o honynt nag y mae ei hun in ei fwytta ac in ei yfed, ac in ei wisco, canys y cwbl ⟨p. 58⟩dross ben hynny sydd in mined i eraill, ac nid yw ddim iddo ef. Ac felly ni ddichon gwr goludog gael dim ychwaneg o wir ddaioni oddiwrth ei fawr gyfoeth nag y mae ei weision in ei gael; canys rhaid yw llenwi eu boliau hwythau, a dilladu eu cefnau allan oi olud ef, in gystal ar eiddo ei hun.
1. Fod y rhai sydd ganddynt ymborth a dillad digonol, yn mwynhau cymmaint ag y mae 'r dynion cyfoethoccaf ar sy ar y ddaiar: ar yr hyn y dywaid yr Apostol yn y lle a grybwyllwyd am dano or blaen, O bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny, 1 Tim. 6. 8. Er meddu o ddŷn fwy nâ mwy o dda 'r bŷd ymma, er hynny nid yw ef yn mwynhau ddim mwy o honynt nag y mae ei hun yn ei fwytta ac yn ei yfed, ac yn ei wisco, canys y cwbl ⟨p. 58⟩dros ben hynny sydd yn myned i eraill, ac nid yw ddim iddo ef. Ac felly ni ddichon gwr goludog gael dim ychwaneg o wir ddaioni oddiwrth ei fawr gyfoeth nag y mae ei weision yn ei gael; canys rhaid yw llenwi eu boliau hwythau, a dilladu eu cefnau allan oi olud ef, yn gystal ar eiddo ei hun.
2. Fod ystâd pob dŷn wedi ei threfnu gan Dduw, yr hwn megis ac y mae ef in Arglwydd goruchaf Nef a Daiar, ac y dichon wneuthur â ni fell y gwelo in dda; felly y mae ef in anfeidrol mewn doethineb, a thrwy hynny in gwybod pa ystâd sydd oreu a chymmhwysaf i ni, a hynny in well nag y gwyddom ni ein hunain; je, ac y mae ef in oludog o drugaredd a daioni, a thrwy hynny in ewyllysgar ac in barod i wneuthur yr hyn in ei ddoethineb y mae ef in gwybod ei fod in oreu ac in gymhwysaf i ni. Yr hyn ped ystyrid in ddifrifol, a fyddei in fôdd enwedigol i weithio ein calonnau i ryw fesur o fodlonrwydd in ein ystad a'n cyflwr gwaelaf.